Yn adnabyddus am ei mega-reggae-hit ‘Bach O Hwne’, mae’r canwr/cerddor/actor/athro llanw 27 oed yn byw yn Llansannan, Sir Conwy.

Eleni mi fu yn actio mewn sioe i bobol ifanc am beryglon cyffuriau ac yn gigio’n galed gyda’i fand.

Ac mae newydd ryddhau ei drac reggae ddiweddara, ‘Zion’, ac wedi creu fideo cartŵn i’r gân sydd ar YouTube…

Faint o waith oedd animeiddio’r fideo ar gyfer ‘Zion’?

Lot!

Ond dw i wedi bod yn animeiddio ers cwpwl o flynyddoedd – roedd yna gwpwl o gartŵns ar y fideo wnes i greu i ‘Bach O Hwne’ [sydd wedi ei gwylio 10,000 o weithiau ar YouTube. Ac mae’r fideo o berfformiad byw buddugol ‘Bach O Hwne’ ar Cân i Gymru 2021 wedi ei gwylio dros 11,000 o weithiau ar YouTube].

Dw i’n gwneud yr animeiddio pan mae gen i’r awydd, ac mae o lot haws efo ipad, ond dal yn lot o waith – os fyswn i yn ceisio cyfri’r oriau, fysa fo’n gwneud fi’n sâl yn meddwl am y peth!

Ond mae o’n broses braf, ac os fysa ti eisiau talu rhywun i wneud fideo miwsig wedi ei animeiddio, fysa fo’n costio miloedd ar filoedd.

Mae o’n neis trio’i wneud o dy hun, ac yn rhan o’r hwyl o ryddhau cân… ac mae plant yn gallu mwynhau’r animeiddio.

Ydach chi wedi astudio Celf?

Wnes i ddim cymryd Celf i TGAU – ond wnes i ddim cymryd Cerddoriaeth chwaith!

Ond roeddwn i wastad yn dŵdlo yn yr ysgol, pan oeddwn i yn ffeindio’r gwersi yn kind of boring weithiau. 

Pam rhyddhau ‘Zion’ cyn Dolig?

Mae hon yn hen gân a dw i wedi bod yn trio ei chael hi allan ers blynyddoedd… tydi hi’n ddim byd i wneud efo’r Dolig!

O ran y neges, mae Zion a Babylon yn hen beth beiblaidd a Zion sy’n cynrychioli’r lle ar y byd lle mae heddwch a brawdgarwch a chariad a rhannu – i gyd o’r pethau da mae pobol yn wneud.

Ceisio cario neges pobol fel Bob Marley a Lee Scratch Perry ymlaen ydw i yn y gân yma, a dangos parch atyn nhw a’r hyn roeddan nhw yn canu am yn eu caneuon reggae.

Yr angen i gadw draw o Babylon, lle mae cenfigen, cyfalafiaeth, pobol farus a rhyfel.

Ffordd o feddwl ydy o, a dw i’n gweld Zion fel nefoedd ar y ddaear.

Ydy reggae yn fiwsig addas i wrando arno yn y Gaeaf?!

Ydy, dw i’n meddwl. Dw i yn gwrando ar reggae rownd y rîl…

Erbyn meddwl, hwyrach fod gen i fwy o duedd i wrando ar roc trwm yr adeg yma o’r flwyddyn.

Ond does yna ddim naws Hafaidd i ‘Zion’, er bod yna reggae beat.

A dw i jesd yn trio rhyddhau caneuon pan maen nhw yn barod.

Oes yna fwy o ganeuon am ddod yn 2023?

Mae yna gwpwl yn barod i fynd syth ar ôl y flwyddyn newydd, sy’n ganeuon roc-reggae.

Mae’r nesaf, ‘Gyrru ar y ffordd’, am fod yn straight forward reggae.

Ac wedyn mae gen i un o’r enw ‘Supersonic Llansannan’ sy’n fwy o gân bop.

Hen chant roedden ni yn ganu yn ysgol Llan ydy hwnne…

Lle fuoch chi’n canu eleni?

Dw i erioed wedi cael blwyddyn lle’r ydw i wedi gwneud gymaint o bethau gwahanol.

Llwyth o gigs, tua 30 gyda’r band.

A wnaethon ni wir fwynhau chwarae Gŵyl Fach y Fro, achos roedd hi’n un o’r gŵyliau cyntaf ac roedden ni wedi cyffroi mor gymaint yn cael chwarae yn Barry Island. Ffantastig.

A wnes i fwynhau Sesiwn Fawr [Dolgellau], er roedden ni yne ar y dydd Sul ac yn cloi’r peth, ac roedd o’n eithaf chilled a pawb yn hungover.

Roedd Tonnau Festival yn uchafbwynt anferth, ar Ynys Môn, yn rhannu llwyfan gyda bandiau afro-beat a gallu cyflwyno reggae Cymraeg i gynulleidfa newydd.

Beth arall fuoch chi’n ei wneud?

Dw i newydd orffen gwneud sioe o’r enw ‘Croesi’r Llinell’ efo [Cwmni Theatr] Arad Goch oedd yn dri mis o waith, yn perfformio rownd ysgolion Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin.

Dw i’n meddwl ein bod ni wedi mynd i bob ysgol uwchradd yn yr ardaloedd yna.

Roedd hi’n sioe am county lines ac roeddwn i yn actio plentyn 15 oed sy’n cael ei ddenu i gludo cyffuriau.

Roedd hi’n sioe dda iawn a’r plant i weld yn mwynhau’r actio a’r miwsig drum n bass.

Wnes i fwynhau hefyd… ac roedden ni yn gwneud gweithdy efo’r plant ar ddiwedd y sioe, jesd i wneud yn siŵr bod y neges wedi taro.

A wnaeth un plentyn ofyn: ‘Oes yna un ohona chi wedi ennill Cân i Gymru?’

Roedd hynny reit ffyni…

Beth sydd ar y gweill ar gyfer 2023?

Mae hi’n ddyddiau cynnar iawn, ond dw i yn datblygu sioe gydag Arad Goch am ein cysylltiad ni efo natur.

Dw i wedi sgwennu’r caneuon, ond dw i eisiau rhoi’r stori at ei gilydd.

Rydw i wedi defnyddio fy nghefndir gwyddonol i sgwennu’r caneuon [mae ganddo radd Ffiseg], ac maen nhw yn lot mwy ffeithiol na chaneuon arferol!

Sioe un person fydd o, felly fi fydd yn gwneud bob dim!

Beth yw eich atgof cynta’?

Cael fy ngwthio fewn i bwll a gorfod dysgu sut i nofio yn Ffrainc, pan oeddwn i yn fach iawn.

Y pethau eithafol rwyt ti’n cofio, ynde?

Beth yw eich ofn mwya’?

Ym…yyy… mae slygs yn really creepy.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dim digon.

Fydda i’n mynd â Casi’r ci defaid am dro, ac mae o’n helpu fi feddwl pan dw i yn trio sgwennu rhywbeth.

Fydda ni’n mynd am dro ar hyd Bryniau Clwyd ac mae’r golygfeydd yn wych – rydach chi’n medru gweld Eryri i gyd.

Fyswn i ddim yn galw fy hun yn bêl-droediwr, ond yr Haf yma wnes i chwarae fy ngêm gyntaf o ffwtbol 11 bob ochr mewn cynghrair yn Nyffryn Clwyd, y Llandyrnog and District Summer League.

Mae yna tua deg tîm o bentrefi lleol yn chwarae yn erbyn ei gilydd, a wnes i ymuno eleni yn chwarae i Nantglyn, lle’r oedd yncl fi yn coach.

Beth sy’n eich gwylltio?

Gormod o bethe!

Rhyfela – dw i methu deall… a phobol barus.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Lamb shank efo Ozzy Osborne.

Dw i wrth fy modd efo lamb, a dw i wedi bod yn ffan o Ozzy ers erioed.

Mae o yn legend ac mae o newydd wneud albym newydd, er bod ganddo fo Parkinson’s.

Es i weld o’n perfformio efo Black Sabbath yn 2014 yn Birmingham. Roedd o yn dda.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Rhaid i fi ddweud Mared Williams!

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

‘Bach O Hwne’, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddweuthaf yma.

Ac erbyn hyn, tydi’r band ddim yn gadael i fi ymarfer ‘Bach O Hwne’…

Hoff wisg ffansi? 

Dw i ddim yn gwisgo gwisg ffansi yn aml iawn, ond wnes i wisgo fyny fel tylluan ar gyfer y fideo i’r gân ‘Awen’.

Hoff albwm?

Mae Led Zeppelin III yn hyfryd, ac wedi ei recordio yng Nghymru wrth gwrs.

Parti gorau i chi fod ynddo?

Es i ŵyl Benicassim yn Sbaen yn 2018, a gweld Muse, Kendrick Lamar, Stormzy, a’r bobol wnes i fwynhau mwyaf oedd Massive Attack. Ffantastig. A doeddwn i erioed wedi clywed nhw yn fyw cyn hynny. Sbeshial iawn.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Simba’r gath yn mewian a llyfu bôls, a gwneud bob math o bethe eraill hefyd.

Mae o fel bod cathod yn deffro yr adeg yna.

Hoff ddiod feddwol?

Guinness yn y Gaeaf, a lager yn yr Haf.

A GAN EI BOD HI’N DDOLIG, DYMA DRI CHWESTIWN BONWS…

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Dw i ddim yn un am ddarllen llyfrau, erioed wedi bod. Roedd yn well gen i wneud Maths yn yr ysgol.

Ond y peth gorau i fi ddarllen oedd Dune gan Frank Herbert.

Wnes i ddarllen o yn y coleg a dw i heb allu darllen dim byd ers hynny, achos mae bob dim yn rhy ddiflas. Dw i yn darllen ryw bennod, ac wedyn yn meddwl: ‘Tydi hwn ddim yn mynd i nunlle’.

Ond mae Dune yn stori dda iawn ac yn gofyn cwestiynau am gymdeithas.

Hoff air?

Heddwch.

Oes ganddoch chi hoff ffilm Dolig?

Wnes i wylio Bad Santa am y tro cynta’ Dolig diwetha, ac mae o yn hileriys, chwara teg.