Huw Bebb sy’n ceisio cloriannu’r flwyddyn a fu, a hynny yng nghwmni Tori, sylwebydd gwleidyddol a chyn-Aelod o’r Senedd Plaid Cymru…

Ai fi ydi o, ta ydi pob blwyddyn ers refferendwm Brexit yn 2016 yn mynd yn fwy a mwy gwallgof yn y byd gwleidyddol?

Pe bai rhywun yn gofyn i mi beth oedd y digwyddiad mwyaf annisgwyl yn 2022, dw i ddim yn siŵr y baswn i’n gallu eu hateb.

Ond fel pob blwyddyn arall, yr hyn sy’n sicr yw ei bod hi bellach yn dirwyn i ben.

A thra mae gwleidyddion Bae Caerdydd a San Steffan yn gwneud eu ffordd gartref ar gyfer y Nadolig, rhai yn llyfu eu clwyfau a rhai mewn swyddi na fyddan nhw wedi dychmygu eu cael ar gychwyn 2022, mae’n bryd i ni edrych yn ôl ynghyd â cheisio darogan be’ goblyn sy’n aros amdanom ni yn 2023.

Beth nesaf i’r Ceidwadwyr?

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r Ceidwadwyr, a dweud y lleiaf.

Yn San Steffan, maen nhw wedi cael gwared ar ddau Brif Weinidog gwahanol, gydag un ohonynt yn codi gymaint o ofn ar y marchnadoedd ariannol nes y bu’n rhaid iddi ymddiswyddo ar ôl 44 diwrnod.

A’r lleiaf ddywedwn ni am Boris Johnson, y gorau oll.

Er yn derbyn bod 2022 “yn flwyddyn siomedig i’r blaid”, mae Samuel Kurtz yn hyderus fod y Prif Weinidog diweddaraf wedi rhoi’r Ceidwadwyr yn ôl ar y trywydd cywir.

“I fi, fel rhywun sydd ddim yn y blaid yn San Steffan, yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd lan yno, mae wedi bod yn anodd iawn,” meddai’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol tros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wrth Golwg.

“Ond dw i yn credu bod Rishi Sunak wedi dod i mewn, wedi cŵlio pethau lawr. Mae’r sgyrsiau nawr ynglŷn â’r blaid yn ymwneud â pholisi yn hytrach na phersonoliaethau, ac mae hynny yn beth pwysig iawn.

“Os ydyn ni’n edrych ymlaen nawr at yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2024, mae lot o waith gyda ni i’w wneud fel plaid i ddangos i bobol pam y dylen nhw bleidleisio drosom ni unwaith eto.

“Ond dw i yn meddwl mai gyda Rishi Sunak y mae’r siawns gorau gyda ni.

“Os ydyn ni’n edrych ar y marchnadoedd ariannol, mae lot o waith da wedi cael ei wneud gan [y Canghellor] Jeremy Hunt a Rishi Sunak i setlo’r rheini lawr.

“Mae’r bunt yn llawer iawn cryfach yn erbyn y ddoler nawr nag oedd e yng nghyfnod Liz Truss, sy’n mynd i’n helpu ni fel gwlad yn ariannol.

“Ond os ydyn ni’n edrych ar y polau piniwn, mae lot o waith gyda ni i’w wneud i ymladd yn ôl a dangos i’r bobol ein bod ni yn blaid serious, yn blaid sydd yn cymryd y dewisiadau anodd er mwyn gwellau bywydau pobol, yn blaid sy’n gofalu am y bobol fwyaf tlawd – rydyn ni wedi gweld hynny wrth i fudd-daliadau godi yn unol â chwyddiant.

“Rydyn ni hefyd wedi gweld mwy o arian yn dod i lawr yr M4 er mwyn gwella’r sefyllfa yma yng Nghymru.

“Felly ydi, mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd ond dw i’n credu ein bod ni’n gorffen y flwyddyn mewn safle lot cryfach, a gyda sylfeini lot cryfach na’r sefyllfa yr oedden ni ynddi ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.”

‘Wedi canu ar y Ceidwadwyr’

Fodd bynnag, un sydd o’r farn ei bod hi wedi canu ar y Ceidwadwyr pan ddaw hi at yr etholiad nesaf yw’r sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.

Mae ef o’r farn mai mater o geisio nadu’r Blaid Lafur rhag ennill mwyafrif enfawr adeg yr etholiad nesaf fydd hi.

“Dw i yn credu ei bod hi’n anodd iawn iddyn nhw ddod yn ôl,” meddai wrth Golwg.

“Nid yn unig oherwydd beth ddigwyddodd gyda Boris Johnson, ond hefyd Liz Truss achos ei bod hi – mewn cyfnod byr iawn – wedi chwythu’r economi lan. Ac ynghyd â hynny’r rhethreg ynglŷn â hunaniaeth y blaid.

“Yn hanesyddol maen nhw wedi creu’r darlun yma eu bod nhw’n blaid sy’n gallu cynrychioli’r byd busnes a bod yn garcus gyda’r economi.

“Dw i’n meddwl bod hynny wedi achosi trafferthion iddyn nhw oherwydd rydyn ni wedi gweld Rishi Sunak yn gorfod glanhau’r llanast.

“Mae’n rhaid iddo fe nawr adeiladu, i ryw raddau, plaid Geidwadol wahanol.

“Yn eithaf eironig, dyw e ddim yn gallu bod y Ceidwadwr mae e eisiau bod, dyw e methu bod ar y dde gormod, bydd yn rhaid iddo fe fod yn bragmataidd.

“Ond dw i yn meddwl bod y mynydd yna sydd ganddyn nhw i’w ddringo fel plaid yn un rhy anodd.

“Y sialens nawr i’r blaid yw os ydyn nhw’n colli, a dw i’n credu y byddan nhw’n colli, beth yw cyfanswm y mwyafrif yna [gaiff Llafur]? Ydyn nhw’n gallu ei gadw o’n weddol fach? Neu ydi o’n mynd i fod yn fwyafrif mawr? Ydi o’n bosib y bydd y blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ffurfio rhyw fath o glymblaid anffurfiol o progressives ar y chwith a datblygu cyd-destun gwleidyddol gwbl wahanol?”

Pantomeim Plaid Cymru

Fe ddechreuodd y flwyddyn yn addawol i Blaid Cymru, mae’n rhaid cyfaddef.

Galluogodd y cytundeb cydweithio gyda Llafur Cymru iddyn nhw ddylanwadu ar raglen y Llywodraeth, ac roedd Adam Price ar ben ei ddigon yng nghynhadledd wanwyn y Blaid.

Fodd bynnag, mae pethau wedi suro cryn dipyn wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen yn sgil cyhuddiadau o “ddiwylliant gwenwynig” o fewn Plaid Cymru.

Mae aelod o staff ac Aelod o’r Senedd dan ymchwiliad a teg dweud bod y ffordd ddeliodd y Blaid gyda sefyllfa Jonathan Edwards, yr AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gafodd ei wahardd am ymosod ar ei wraig, wedi gadael blas cas yng nghegau sawl un.

“Wrth gwrs ei fod e’n destun gofid, fel y bydde fe i unrhyw blaid pan mae yna broblemau gydag aelodau yn digwydd a bod rhaid cynnal ymchwiliadau ac yna newid strwythurau o ganlyniad i hynny,” meddai’r cyn-Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Bethan Sayed wrth Golwg.

“Dw i’n cofio pan yr oedd yna honiadau o rywiaeth yn y blaid, fe gafwyd ymchwiliad mewn i sut oedd menywod yn y blaid yn teimlo, ac fe wnes i gymryd rhan yn hwnna, er mod i ddim yn sicr beth oedd ei gasgliadau.

“Dw i’n credu bod angen newid prosesau o’r llawr i fyny yn fewnol yn y blaid er mwyn adfer ffydd pobol yn y strwythurau yma.

“Mae angen i’r strwythurau fod yn gywir cyn bod y blaid yn llwyddiannus eto a’r un peth y byddwn i’n dweud sydd angen ei newid yw rhoi mwy o bŵer i’r arweinydd i gael mwy o fewnbwn.

“Oherwydd dw i wedi gweld cyfweliadau – nid yn unig gydag Adam, ond hefyd gyda Leanne gynt – yn dweud nad ydyn nhw’n gallu trafod pethau oherwydd nad ydyn nhw’n rhan o’r prosesau yma ac mai nad y nhw sy’n gyfrifol.

“Wel i fi, mae’n rhaid bod yna ryw fath o gyfrifoldeb gan yr arweinydd, neu beth yw pwrpas arweinydd?

“Achos ddylen nhw ddim jyst bod yn arweinydd o ran polisi, mi ddylen nhw fod yn arweinydd o ran sut mae’r blaid yn gweithredu.

“Dyna yw’r prif beth i mi, mae’n rhaid i ni fod yn iachus o fewn plaid ein hun er mwyn i ni fod yn ymddangosiedig iachus i’r cyhoedd.

“Nid dim ond ni sy’n cael y problemau yma, ond dyw hynny ddim yn esgusodi bod angen newid, a’r newid yna yn gloi.”

Adam Price ar dir sigledig?

Dyw Bethan Sayed ddim yn credu fod angen newid yr arweinydd, er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r Blaid.

“Mae pawb yn gofyn am hyn bob tro mae pethau’n mynd o chwith mewn pleidiau gwleidyddol, a fy ymateb i yw bod hynny yn tynnu i ffwrdd o’r prosesau,” meddai.

“Bydden i ddim yn dweud bod angen i Adam fynd, ond mae angen i Adam liwio rhyw fath o drafodaeth fewnol er mwyn hwyluso’r datblygiadau yma o fewn y blaid.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod e’n help i gael cystadleuaeth arweinyddol.”

Fodd bynnag, mae Theo Davies-Lewis o’r farn fod Adam Price ar dir sigledig.

“Dw i wedi dweud ers wythnosau bod sefyllfa Adam Price yn un fregus yn sgil yr holl honiadau ac ymchwiliadau, ac fe fydd yn rhaid i ni weld beth sy’n digwydd gyda nhw,” meddai.

“Ond ar ddiwedd y dydd dydych chi ddim moyn i’r pethau yma gymryd drosodd y blaid wleidyddol.

“Rydych chi eisiau gwneud eich jobyn chi, sef bod yn wrthblaid effeithiol yn ogystal â dylanwadu ar bolisi drwy gydweithio gyda’r blaid Lafur.

“Mae e jyst yn edrych i fi… sa i’n siŵr lle mae’r arweinyddiaeth yn mynd nesaf, beth yw’r strategaeth.

“Achos mae yna gymaint o sialensau yn wynebu Plaid Cymru’n etholiadol beth bynnag, a sa i’n credu fod yna reolaeth o fewn y blaid yn gyffredinol.

“I asesu Plaid Cymru’r flwyddyn yma, maen nhw wedi bod yn llwyddiannus drwy gael y cytundeb yna gyda’r blaid Lafur a chyflawni rhai polisïau.

“Ond dydyn nhw ddim wir yn derbyn y ganmoliaeth amdanyn nhw, sy’n bwysig os ydych chi eisiau ennill etholiadau.

“Ac wedyn rydyn ni’n dod at yr honiadau yna, sy’n codi cwestiynau ynglŷn â’r rheolaeth sy’n dod o swyddfa’r arweinydd.

“Maen nhw yn honiadau gwahanol, sa i moyn clymu nhw i gyd gyda’i gilydd, ond mae yna batrwm yna, yn enwedig gyda beth ddigwyddodd gyda Jonathan Edwards er enghraifft, lle mae gwybodaeth wahanol yn dod mas.

“Dw i’n meddwl bod hynny yn creu’r darlun yna o ddiffyg rheolaeth yn y blaid.

“I mi, mae’n dod ’nôl i’r dywediad Saesneg, where does the buck stop, ac mae’n rhaid cymryd cyfrifoldeb – ddim am yr honiadau eu hunain wrth gwrs – ond sut y mae’r blaid wedi ymdrin â nhw, a phwy sy’n ymdrin â nhw.

“Ac i fod yn onest, dw i wedi gweld lot o bobol yn gofyn y cwestiwn, pwy sydd yn [delio â’r honiadau]?”

‘Un peth yn cadw Adam yn saff’

Er nad yw’n siŵr am ba hyd y bydd Adam Price yn gallu goroesi fel arweinydd, dyw Theo Davies-Lewis ddim yn sicr pwy fyddai’n gallu camu i’r adwy.

“Mae e’n anodd gweld talent yn dod drwyddo yn y grŵp Seneddol,” meddai.

“Mae yna bobol ddiddorol yna, yn hanesyddol mae Rhun ap Iorwerth wedi cnocio ar y drws o’r blaen.

“Falle fod yna genhedlaeth newydd gyda Delyth Jewell yn cymryd drosodd, ond oes gyda hi’r profiad, oes gyda hi’r apêl? Oes gyda hi’r proffil? Dw i ddim yn siŵr.

“Ac yn wleidyddol i Adam Price, dyna’r un peth sy’n ei gadw e’n saff.

“Mae’n anodd iawn gweld sut y byddai Adam Price camu i lawr y flwyddyn nesaf achos sa i’n gweld y grŵp Seneddol yn gwneud y dewis yna.

“A pwy ydych chi wedyn yn troi ato? Delyth Jewell neu Rhun ap Iorwerth?

“Sa i’n siŵr os yw’r un yn gallu apelio at yr ardaloedd lle mae Adam wedi ceisio apelio atyn nhw, ac wedi’i ffeindio fe’n anodd.

“Efallai yn y flwyddyn nesaf y byddwn ni’n gweld proffil rhai o’r meinciau cefn yn codi.

“Rydyn wedi gweld Cefin Cambell yn barod gyda’r cytundeb cydweithio yn adeiladu proffil, er dw i ddim yn siŵr os ydw i’n ei weld e fel arweinydd.

“Pan ddaeth Adam yn arweinydd y tro diwethaf, fe oedd yr ymgeisydd naturiol, ac os bydd y blaid angen rhywun i’w olynu ef fe fydd angen iddyn nhw ffeindio’r ymgeisydd naturiol yna eto.”

Prif Weinidog nesaf Cymru?

O gymharu â’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, mae Llafur Cymru wedi cael blwyddyn gymharol hamddenol.

Does dim amheuaeth fod arwyddo’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi hwyluso pethau iddynt yn y Senedd yn ogystal â’u galluogi i gymryd peth o’r clod am syniadau ei phartner.

Y cwestiwn sydd ar wefusau sawl un yw pwy fydd yn olynu Mark Drakeford pan fydd o’n penderfynu camu i lawr.

Ac yntau’n Brif Weinidog Cymru ers mis Rhagfyr 2018, mae eisoes wedi cadarnhau na fydd yn parhau yn y swydd nes diwedd y tymor seneddol hwn yn 2026.

Pwy mae Theo Davies-Lewis yn credu yw’r ffefrynnau i’w olynu?

“Dw i’n meddwl fod yna ddau ymgeisydd clir iawn, sef Vaughan Gething a Jeremy Miles,” meddai.

“Os ydych chi’n edrych ar le mae’r cryfder y tu mewn i’r blaid, Jeremy Miles a Vaughan Gething sydd â’r gefnogaeth pan mae’n dod at yr aelodaeth a’r undebau a’r Aelodau o’r Senedd hefyd.

“[Pwy fydd yn olynu Mark Drakeford] fydd y cwestiwn mawr flwyddyn nesaf dw i’n credu a dyna fydd y ffocws.

“Er dw i ddim yn disgwyl i Mark Drakeford sefyll lawr y flwyddyn nesaf i fod yn onest, oherwydd dw i’n credu os ydych chi’n edrych dros y misoedd diwethaf mae lot o’r pethau roedd Mark Drakeford moyn gwneud wedi cael eu heffeithio gan y darlun economaidd.

“Fe welsoch chi hynny gyda’r ‘gyllideb amseroedd anodd’, yr wythnos diwethaf.

“Dw i’m yn meddwl mai dyna oedd Mark Drakeford moyn i ddigwydd, roedd e eisiau adeiladu Cymru newydd i ryw raddau cyn gadael. Ac mae hynny yn mynd i fod yn anodd iawn ac fe fydd e angen ychydig mwy o amser dw i’n credu.

“Felly dw i’n credu yn sicr mai’r flwyddyn ar ôl nesaf fydd hi [arno yn ymadael], oni bai bod rhywun fel Jeremy Miles, Vaughan Gething, neu falle Keir Starmer yn dylanwadu gan ddweud bod angen rhywun yn y swydd erbyn yr etholiad cyffredinol [Prydeinig] yn 2024.

“Ond Miles a Gething yw’r ddau fydd yn y ras.”