Beth wnaethoch chi fwynhau eleni, o ran gig neu gân? Neu beth am hoff lyfr neu ddrama?
Eleni fe ailgydiwyd yn y gwaith o drefnu cyngherddau, dramâu, arddangosfeydd a gigs o ddifri. Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Dregaron, ar ôl i’r ‘dre fach â sŵn mawr’ orfod aros dwy flynedd amdani oherwydd Covid. Enillodd Meinir Pierce Jones Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Capten, a Sioned Erin Hughes y Fedal Ryddiaith am ei chasgliad o storïau, Rhyngom. Dyfarnwyd y Gadair i’r bardd Llŷr Gwyn Lewis, a’r Goron i Esyllt Maelor.
Ar ôl taran o sioe ar y Maes nos Sul gynta’r brifwyl, aeth Dafydd Iwan â’i gân ‘Yma o Hyd’ allan i’r byd ym mis Tachwedd – diolch i dîm Cymru â’u cenhadon yn Qatar. Cafodd Hanan Issa ei phenodi’n Fardd Cenedlaethol Cymru, y bardd Mwslemaidd cyntaf i fod yn y swydd, ac enillodd Ffion Dafis wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel Mori.
Yn 2022 fe gollon ni gawr cefn gwlad, y cyflwynydd Dai Jones, a’r seren roc, yr actor Dyfrig Evans. Bu farw’r ymgyrchydd a’r bardd Cen Llwyd, y ddigrifwraig Mair Garnon, yr arlunydd Mike Jones, R Cyril Hughes, awdur Castell Cyfaddawd, enillydd ‘y Daniel’ yn 1984, a’r awdur o Batagonia, Elvey MacDonald, ymhlith eraill.
Roedd S4C yn dathlu’r 40, a Siop y Pentan, Caerfyrddin yn dathlu’r 50. Er i siop Gymraeg Llandudno gau ei drysau am y tro olaf, agorodd Siop Cwlwm siop newydd yng nghanol Croesoswallt, tref sydd dros y ffin.
Beth oedd eich uchafbwyntiau celfyddydol chi yn 2022? Gofynnodd Golwg hynny wrth ambell un, a holi hefyd – pa lyfr neu record yr oedden nhw’n dymuno ei gael yn eu hosan y Dolig…
Iwan Bala, artist, Cefneithin, Sir Gaerfyrddin
Dw i wedi mwynhau’r llyfr dwyieithog, clawr caled Hon, gan yr H’mm Foundation (golygydd Christine Kinsey). Cyfrol sydd yn cynnwys gwaith celf a thraethodau hunanesboniadol gan 10 o artistiaid benywaidd Cymru. Mae nifer yn gyfarwydd i ddarllenwyr Golwg fel Angharad Pearce Jones a Marian Delyth, a rhai sydd ddim mor gyfarwydd, fel Sadia Pineda Hameed a Sarah Younan. Ond maen nhw oll yn sefydlog yng Nghymru, ac amryw wedi arddangos yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd. Beth sy’n ddiddorol yw medru darllen eu geiriau nhw eu hunain am y profiad o fod yn creu yn y Gymru gyfoes, fel artist ac fel menyw. Mae rhagair cynhwysfawr gan Menna Elfyn yn gosod y maes. Dw i wastad wedi bod yn gwarafun y prinder llyfrau am gelf gyfoes yng Nghymru, ond mae pethe yn gwella!
Dr Miriam Elin Jones, arbenigwr ar lenyddiaeth wyddonias, Abertawe
Fel llawer o bobol, roedd gweld yr Eisteddfod yn ei hôl yn un o uchafbwyntiau celfyddydol y flwyddyn i fi. Cefais fwynhau sgyrsiau di-ri, ac roedd gweld Menna Elfyn yn darllen o’i chyfrol ddiweddaraf (Tosturi) a lansiad Ffosfforws 2 yn brofiadau arbennig.
Mi wnes i wirioni’n lân pan gyrhaeddodd cyfrol wefreiddiol Grug Muse, merch y llyn, i frig categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Roedd yn llwyr haeddiannol. Dw i hefyd wedi mwynhau (os dyna’r gair) Lloerig gan Geraint Lewis, er bod ei chynnwys yn dorcalonnus. Mae albwm newydd gan Sŵnami jyst cyn Nadolig hefyd wedi bod yn syrpreis neis eleni.
Dw i ar dân eisiau cael cyfle i ddarllen Anwyddoldeb, cyfrol newydd o farddoniaeth Elinor Wyn Reynolds, dros y Nadolig, felly hon sydd ar dop fy rhestr. Dw i’n hoff iawn o’i gweld yn perfformio’i gwaith, ac yn edrych ymlaen at ddarllen y cerddi. Mae fy nghyfaill Gareth Evans Jones newydd gyhoeddi ei gyfrol academaidd gyntaf, Mae’r Beibl O’n Tu, felly gwell i fi ofyn am honno hefyd. Dw i hefyd yn gobeithio dod o hyd i Cwlwm gan Ffion Enlli dan y goeden. Mae’n wych gweld cymaint o leisiau benywaidd yn dod i’r amlwg ar hyn o bryd, a gobeithio gweld hynny’n parhau yn 2023.
Meinir Mathias, artist, Talgarreg, Ceredigion
Roedd yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Nhregaron yn uchafbwynt mawr ac roedd yn dda gweld talentau creadigol newydd yn cael eu dathlu. Braf oedd gwylio fy merch Mari Mathias yn perfformio caneuon newydd o’i halbwm werinol newydd, Annwn, yn y Tŷ Gwerin. Wnes i fwynhau tipyn o’r gerddoriaeth newydd a oedd ar y Maes, fel set Bush Gothic, y triawd gwerin ôl-fodernaidd o Awstralia, a’r feiolinydd Angharad Jenkins o Calan. Sbin newydd ar gerddoriaeth werin gyda blas pync.
Braf oedd cael rhoi sgwrs i gynulleidfa gyda Meirion Jones am y profiad o weithio fel artist yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma. Dw i wedi cael sawl arddangosfa eleni (yn Galeri Canfas Aberteifi, Oriel Plas Glyn y Weddw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffair Gelf Hampstead yn Llundain, ac Oriel Mimosa) ond uchafbwynt gwirioneddol i mi oedd cael ymuno â Ffin y Parc Galeri, Llanrwst. Yn dilyn sioe Nadolig a haf cymysg llwyddiannus gyda nhw, byddaf yn cael sioe unigol yno fis Ebrill nesaf, a dw i’n edrych ymlaen yn arw.
Hyfryd oedd cael y cyfle i ddathlu menywod Cymru trwy baentiadau cyhoeddus. Cefais wneud portread o Mary Sutherland, y fenyw gyntaf yn y byd i raddio mewn coedwigaeth, ar gyfer Prifysgol Bangor, i’w hongian yn siambr y cyngor. Cefais gomisiwn i wneud paentiad o Catrin Glyndŵr, sydd ar glawr llyfr Menna Elfyn, Tosturi. Mae’r llyfr yn llawn cerddi emosiynol a deallus sy’n rhoi blaenoriaeth i fenywod. Comisiwn arall oedd llun Santes Non ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae delwedd o’r paentiad i’w weld ar arwydd ger Ffynnon Non ar gyrion Tyddewi.
Hoffwn gael albwm Gwenno Saunders, Tresor, i’r Nadolig, ar feinyl. Sgrifennodd Gwenno’r albym yn St Ives ac mae gen i ffrindiau yna. Mae harddwch yr ardal yn fy atgoffa o Geredigion ac o Gei Newydd pan oeddwn i’n blentyn.
Amy Warrington, actor Byddar, Penygroes, Gwynedd
Cael actio yn y gyfres Person/A (Cwmni Da) oedd fy hoff ddigwyddiad i yn 2022. Mae hi’n ddrama am hogan o’r enw Ana sy’n cyfarfod â Katie ar ôl rhedeg allan o cult. Ro’n i’n actio cymeriad o’r enw ‘Shaz’. Mae o ‘ar alw’ rŵan os ydach chi eisio ei gwylio hi. Mi wnes i hefyd fwynhau canu efo Rhys Meirion a Chôr Lleisiau Llawen, diolch i Llwybrau Llwyddiant (cynllun Gwasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd).
Fy hoff lyfr eleni oedd Crave, y gyntaf yng nghyfres Tracy Wolff, a fy hoff ffilm o 2022 oedd Top Gun: Maverick. Fy hoff gân oedd Harry Styles, ‘As It Was’. Dw i’n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr Cherish, chweched llyfr Tracy Wolff. Mae o’n dod allan ar Fai 30, 2023.
Mei Gwynedd, cerddor, Caerdydd
Mae sawl uchafbwynt personol wedi bod yn 2022. Cael fy enw fewn i The Guinness Book Of Records gyda fy addasiad o ‘Hei Mistar Urdd’, perfformio ‘Pishyn’ fel dathliad 50 mlynedd Edward H Dafis ar Noson Lawen o flaen y band, cynhyrchu trac ‘Yma o Hyd’ i Dafydd Iwan/S4C ac hefyd cyd-weithio gyda Mari Mathias ar ei albym hyfryd Annwn. O ran gwylio ffilm, fe wnes i fwynhau The Power Of The Dog yn fawr iawn.
Dw i wedi trio ail-gydio mewn darllen llyfrau yn 2022, a gobeithio fod Siôn Corn am ddod â’r llyfr Here Comes Everybody i mi, sef llyfr am hanes The Pogues gan aelod o’r band, James Fearnley.
Myrddin ap Dafydd, Archdderwydd a chyhoeddwr, Llwyndyrys, Pwllheli
Pan oedd Llio a minnau ar wyliau yn Llydaw ddiwedd Awst, daeth gwahoddiad gan Lleuwen Steffan inni daro draw i ganolbarth mynyddig y wlad i noson o ganu traddodiadol yn nhafarn Tŷ Elise. Noson braf o ddiwedd haf oedd hi, y croeso gan Lleuwen a’r Llydawyr yn gynnes, y drefn yn anffurfiol, y canu o’r galon. Nifer o Gymry yno gan gynnwys Steve Eaves, tad Lleuwen, ac roedd yn anorfod iddo yntau daro cân cyn y diwedd. Mor braf oedd clywed yr ieithoedd yn plethu i’w gilydd yn rhwydd unwaith eto.