Mae prosiect Galwad Agored gan Arloesi Gwynedd Wledig yn chwilio am gynhyrchwyr fideo all gydweithio i greu cyfres o ffilmiau byr i ddathlu hanes a diwylliant cymunedau bro Eisteddfod 2023.
Mae Ein Hanes Ni yn brosiect sy’n deillio o Ynys Môn, dan ofal Menter Iaith Môn, gyda’r bwriad o bontio’r cenedlaethau drwy annog gweithgarwch cymunedol i ymchwilio i ddiwylliant, ieithwedd, hanes a chyfrinachau’r fro na fydden nhw wedi eu cofnodi ar ffurf draddodiadol o reidrwydd.
Hyd yma, maen nhw wedi recordio sgyrsiau mewn mwy na phum cymuned ar ffurf rhaglenni dogfen byr.
Mae’r Fenter wedi derbyn adborth calonogol a chadarnhaol gan wylwyr a chyfranwyr, felly maen nhw’n awyddus i ehangu’r cynllun i Wynedd, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar bedair cymuned o fewn ardal Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Y briff yw ffilmio cyfweliadau, golygu fideos, rhoi is-deitlau a chynhyrchu rhaglen ddogfen neu gyfres o ffilmiau byrion ar gyfer pedair cymuned.
Bydd y ffilmio yn digwydd rhwng Chwefror ac Ebrill y flwyddyn nesaf, a’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Ionawr 13.
“Os ydych yn gynhyrchydd fideo, mae’n gyfle da i gydweithio efo cymunedau,” meddai Betsan Siencyn, Uwch Swyddog Cynlluniau Arloesi Gwynedd Wledig.
Cafodd cefnogaeth ariannol ei rhoi ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Gwynedd.
Y person neu gwmni delfrydol
Mae angen rhywfaint o brofiad, ond mae’n yn ffordd ddelfrydol i berson ennill mwy o brofiad.
Mae personoliaeth llawn egni hefyd yn bwysig, yn ôl Betsan Siencyn.
“Rydym yn chwilio am unigolion neu gwmni cynhyrchu fideos,” meddai wrth golwg360.
“Mae angen profiad, ond os mae rhywun yn edrych i ennill ychydig o brofiad, efallai y byddwn yn gallu pario nhw fyny efo rhywun sy’n gwneud cais arall.
“O ran cynhyrchydd fideo, unrhyw un sydd efo digon o egni a brwdfrydedd sydd efo diddordeb yn y maes yma.
“Os ydych yn gynhyrchydd fideo mae’n gyfle da i gydweithio efo cymunedau.”
Telerau gwaith
O ran telerau, bydd y gwaith ar y cyfan yn digwydd yn ystod oriau gwaith ond mae’n ddibynnol ar beth sy’n digwydd a phryd mae digwyddiadau yn y cymunedau.
“Os ewch ar dudalen wefan Ein Hanes Ni mae yna briff sy’n dweud beth sydd angen ei gynnwys yn y cais ac mae hwnna’n cynnwys prisiau diwrnod,” meddai Betsan Siencyn wedyn.
“Bydd y gwaith yn ystod oriau gwaith ond mae’n dibynnu ar y cymunedau.
“Efallai bydd rhywbeth ar y penwythnos fel rhyw ddigwyddiad angen cael ei ffilmio.
“Mae’n dibynnu beth fydd y gwaith ym mhob cymuned.”
O ran cymunedau’n cael eu portreadu, byddai rhywun sy’n flaengar yn eu cymuned yn ddelfrydol i gynrychioli’r gymuned honno.
Y bwriad yw dathlu ardaloedd o fewn bro Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
“O ran cymuned, byddai rhywun sy’n rhan o bwyllgor apêl Eisteddfod, cymdeithas dilwyllianol, Merched y Wawr leol neu ysgol leol yn ddelfrydol,” meddai.
“Rydym yn hapus i weithio efo unrhyw un sydd eisiau dathlu eu hardaloedd.
“Rydym yn edrych am bedair cymuned o fewn ardal Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
“Gallith hynny fod ym Mhwllheli neu ardaloedd ymylol yr Eisteddfod, fel Trefor er enghraifft.”
“Mae’n ffordd o gael hanes a chymuned allan yna.
“Mae yna gyfle i gymunedau chwarae eu rhan.
“Os maen nhw eisiau gwneud cais i’w cymuned nhw chwarae rhan a bod yn rhan o’r cynllun, mae’n grêt iddyn nhw achos maen nhw’n gallu dathlu’r ardal.
“Mae hefyd yn gyfle i godi arian at apêl Eisteddfod.”
Cofnodi straeon, enwau caeau a thai
Mae hen hanesion ardaloedd yn bwysig i ni’r Cymry, ac mae Betsan Siencyn yn credu bod y prosiect yma’n helpu i rwystro straeon ac enwau rhag mynd yn angof.
“Rydym yn mynd ar ôl straeon efallai nad sy’n cael eu cofnodi mewn erthyglau, papurau bro a phethau fel yna,” meddai wedyn.
“Rydym ni’n edrych am straeon sydd yn cael eu colli oni bai bod nhw’n cael eu cofnodi.
“Efallai bod enwau caeau neu enwau tai Cymraeg yn cael eu colli, felly mae’n hollbwysig eu bod nhw’n cael eu cofnodi a’u dathlu.”