Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith ar brysurdeb y Nadolig ar y stryd fawr, yn ôl perchennog un busnes yng Ngwynedd.

Fe wnaeth Succhitta Nuysay, sy’n cadw siop emwaith a chelf SN Jewellery and Resin Design yng Nghaernarfon, gynnal stondin ar y stryd dros y penwythnos er mwyn dod â phobol ynghyd a chodi arian.

Y bwriad oedd hel pres i fanc bwyd y dref drwy raffl a chael arlunydd lleol i dynnu lluniau caricatures o bobol.

Roedd y digwyddiad yn ffordd o ddenu cwsmeriaid allan, ac yn cynnwys adloniant gan gerddorion a stondin coctêls hefyd.

“Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar fusnesau oherwydd dydy pobol ddim yn gwario cymaint ag yr oedden nhw’n arfer ei wneud,” meddai Succhitta Nuysay wrth golwg360.

“Yr adeg hon y llynedd, fe wnes i’n dda. Y tro hwn, dydy pobol ddim yn gwario oherwydd eu bod nhw’n poeni gormod am y biliau.

“Roedd y digwyddiad hwn yn bwysig iawn i’r gymuned ac i ysbryd y Nadolig oherwydd bod costau byw mor uchel, a phobol yn cael trafferth talu eu biliau.

“Dw i’n gweld bod dod â phobol ynghyd yn dod ag ychydig o ysbryd y Nadolig.

“Mae’n dda i’w lles a’u hiechyd meddwl.

“Daeth llawer o bobol, a gadawodd llawer o bobol adolygiad da ar ba mor braf oedd hi ar y stryd.

“Mae Caernarfon yn eithaf grim. Mae’n dawel iawn, yn enwedig ar Stryd y Plas. Does dim llawer o bobol allan cyn y Nadolig.”

Gadael y comfort zone

Michael Hughes

Gwneud animeiddiadau ar-lein ydy gwaith llawn amser Michael Hughes, sy’n byw yng Nghaernarfon.

Dyma’r tro cyntaf i Michael Hughes wneud caricatures o bobol yn fyw, yn hytrach na gweithio o luniau, ond roedd yn awyddus i gymryd rhan yn y digwyddiad ar Stryd y Plas.

“Fe wnaeth y syniad fy nychryn ychydig, ond meddyliais y byddwn yn ei wneud beth bynnag,” meddai.

“Yr hyn dw i’n ei fwynhau fwyaf am wneud caricatures yw ei fod yn fy ymlacio.

“Dw i’n mynd allan o fy comfort zone o flaen pobol.

“Roeddwn i’n arfer gwneud y caricatures ar-lein, a doedd yna ddim cyfathrebu uniongyrchol gyda’r cleient.

“Mae’n wahanol ei wneud wyneb yn wyneb â rhywun, yn bennaf dw i’n gweld os oes gan rywun edrychiad arbennig.”