Ni fyddai codi dwy sied ieir newydd ger Aberystwyth yn dod ag “unrhyw fudd i’r ardal”, yn ôl ymgyrchwyr lleol sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau.

Mae’r cais ar gyfer fferm Tŷ Nant yn Nhal-y-bont yn cynnwys dwy sied fawr, a fyddai’n gallu cadw cyfanswm o 110,000 o ieir er mwyn eu magu i gynhyrchu cig.

Yn ôl un ymgyrchydd lleol, Sarah Reisz, yr hyn sydd dan sylw yw ffermio ar raddfa ddiwydiannol ac er bod y cais yn enw’r ffermwyr, mae hi’n credu ei fod yn cael ei gydlynu gan sefydliad rhyngwladol.

Gwrthodwyd y cais cyntaf gan gynllunwyr Cyngor Ceredigion yn 2019 oherwydd nad oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru “ddigon o wybodaeth” i roi trwydded amgylcheddol.

Cafodd cais newydd ar gyfer yr uned ddofednod ei ail-gyflwyno i Gyngor Ceredigion ddechrau’r flwyddyn.

‘Mecanwaith mawr ar waith’

Yn ôl Sarah Reisz, sy’n byw yn Nhal-y-bont, mae cwmnïau fel Avara-Cargill, cwmni rhyngwladol sy’n berchen, darparu, lladd, prosesu a dosbarthu ieir sydd â safle brosesu yn Henffordd, yn cyflogi asiantaethau i wneud ceisiadau cynllunio ar ran ffermwyr.

“Mae yna fecanwaith mawr ar waith, ac mae hyn ledled y wlad ond yng Nghymru yn arbennig,” meddai Sarah Reisz wrth golwg360.

“Does gan awdurdodau cynllunio gwledig lleol ddim llawer o brofiad efo’r math yma o beth, ac maen nhw’n delio â’r rhain fel petaen nhw’n geisiadau cynllunio ffermio arferol. Maen nhw’n hoffi cymeradwyo ceisiadau cynllunio ar ran ffermwyr.

“Y rhyngwladol sydd tu ôl iddo, maen nhw’n mynd o gwmpas sioeau amaethyddol lleol yn ceisio denu ffermwyr. Mae mor beryglus i Gymru.”

Mae Sarah Reisz yn pwysleisio nad yw gwrthwynebu’r cais yn wrthwynebiad i ffarmio, ond mae hi o’r farn na fyddai’r ardal yn elwa.

“Does neb yn gwrthwynebu ffermwyr,” meddai.

“Mae yna enghreifftiau gwych o ffermwyr yn arallgyfeirio mewn ffordd gynaliadwy, ond dydyn ni ddim yn ystyried mai arallgyfeirio yw hyn.

“Mae hyn yn ddiwydiannol.”

‘Effaith gymdeithasol a diwylliannol’

Yn ogystal â gwrthwynebu Unedau Dofednod Dwys yn fwy cyffredinol, mae Sarah Reisz yn dweud y byddai’n cael effaith negyddol ar dwristiaeth a’r amgylchedd, gan gynnwys dinistrio afonydd a choetiroedd hynafol.

“Yn economaidd, mae o fudd i gwmnïau rhyngwladol ac archfarchnadoedd mawr.

“Nid yw’n dod ag unrhyw fudd economaidd i’r ardal ag eithrio budd i un teulu sy’n cael ei ecsbloetio gan gwmnïau rhyngwladol.

“Mae’n cael effaith gymdeithasol a diwylliannol.

“Bydd yn effeithio ar ansawdd bywyd yn y gymuned hon a’r cymunedau cyfagos.”

Mae tua 300 o bobol wedi gwrthwynebu’r cais, gyda’r rhesymau eraill yn cynnwys yr effaith ar y capel cyfagos a lefelau traffig ar lonydd bach.

“Mae gennym gapel rhestredig, capel Bethesda, sydd reit wrth ymyl y datblygiad,” ychwanega Sarah Reisz.

“Byddai’n 40 metr o siediau ieir, a fyddai’r un maint â chaeau pêl-droed.”

Mae Sarah Reisz, a’i gŵr Barry Wise, wedi bod yn ymgyrchu gyda chriw lleol, ac ar ôl ymgyrchu yn yr ardal, mae Sarah Reisz yn credu bod 95% o’r bobol y daethon nhw ar eu traws yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

‘Asesu’r wybodaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod nhw wrthi’n ystyried y sylwadau gafodd eu gwneud yn ystod yr ymgynghoriad.

“Denodd y cais nifer fawr o gynrychiolaeth gan yr ymgynghorwyr statudol a thrydydd parti oedd â diddordeb,” meddai.

“Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar hyn o bryd yn asesu’r wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais a bydd yn cymryd i ystyriaeth y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y cais.

“Nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer cyfeirio’r cais i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ond mae’n debygol i fod yn gynnar y flwyddyn nesaf.