Mae llefydd sydd yn cynnig pryd bwyd poeth am ddim i bobol ar gynnydd yn sgil yr argyfwng costau byw.

Un ohonyn nhw yw’r Noddfa yng Nghaernarfon, fydd yn cynnig pryd bwyd i bobol am ddim bob yn ail ddydd Iau o Dachwedd 24.

Yn ogystal, mae Neuadd Goffa Penygroes yn cynnig pryd o fwyd rhwng 5.30 a 7.30 bob nos Fercher.

Ar Ragfyr 7, bydd bwyty yn ysgol Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog, a bydd bwyd ar gael rhwng 5.30 a 7 o’r gloch.

Wrth drafod yr argyfwng costau byw a’r prydau bwyd am ddim yng Nghapel Noddfa gyda golwg360, mae Dewi Jones, cynghorydd ward Peblig, yn dweud bod nifer yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwres.

“Efo’r argyfwng costau byw mae llawer o bobol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd, os maen nhw am brynu bwyd, dewis rhwng bwyd maethlon a bwyd iach, a rhoi gwres ymlaen yn eu cartref,” meddai.

“Trwy’r grant yma rydym yn ei gael gan Gyngor Gwynedd, rydym yn gallu helpu pobol ychydig.

“Mae’r bobol sydd yn dod i’r clwb ar ddydd Iau o leiaf yn mynd i gael pryd poeth am ddim.

“Hefyd, byddan ni’n darparu bag o fwyd iddyn nhw gael mynd adref efo nhw, essentials.

“Dydi o ddim am bara’r pythefnos llawn, ond mae o am fod yn gymorth iddyn nhw.

“Mae’r clwb yn agored i unrhyw un sy’n dymuno dod.

“Rydym yn cael grant gan Gyngor Gwynedd i ariannu’r prosiect.

“Rydym yn cydweithio efo Age Cymru Gwynedd a Môn, maen nhw’n darparu’r prydau bwyd ac mae Noddfa yn rhoi’r gofod i ni gael cynnal y clwb.”

‘Y chwyddiant mwyaf ers degawdau’

“Hon ydi’r ward mwyaf difreintiedig yng Ngwynedd felly yn sicr mae yna angen ar ward Peblig,” meddai Dewi Jones wedyn.

“Dwi’n gwybod am bobol sydd wirioneddol yn stryglo ar hyn o bryd.

“Mae biliau ynni yn codi, mae’n siŵr y byddan nhw’n mynd yn ddrytach eto ar ôl mis Ebrill.

“Mae prisiau bwyd ar gynnydd, roedd cyhoeddiad ddoe bod prisiau bwyd yn cynyddu 11%.

“Hyn ydi’r lefel uchaf o chwyddiant rydym wedi’i gael ers degawdau.

“Mae angen cynlluniau fel hyn ac, os rhywbeth, mae angen mwy ohonyn nhw.”

Mae Capel Noddfa yn chwilio am wirfoddolwyr, ac mae croeso i unrhyw un efo diddordeb ymuno.

Dylai unrhyw un sydd yn awyddus i wirfoddoli gysylltu â Dewi Jones ar cynghorydd.dewijones@gwynedd.llyw.cymru, neu drwy fynd i dudalen Facebook Dewi Peblig.