Ar drothwy Diwrnod Plant Mewn Angen ddydd Gwener (Tachwedd 18), mae digwyddiadau’n cael eu trefnu ledled Cymru i godi arian at yr achos.
Elusen y BBC yn y Deyrnas Unedig yw Plant Mewn Angen, sy’n cefnogi plant a phobol ifanc ddifreintiedig.
Mae Prif Ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon wedi trefnu ffair a chwis.
Yn y ffair, mi fydd stondinau cacennau cwpan, crempog, siocled poeth, gemau pêl-fasged, gemau pêl-droed, glitter ar wynebau, blwch tynnu lluniau, melysion a llawer mwy.
Bydd y ffair ymlaen rhwng 9.30 a 12 o’r gloch yn neuadd yr ysgol.
Yn y prynhawn, bydd yr ysgol gyfan yn y Ganolfan Tenis, lle bydd cwis rhwng grŵp o athrawon a grŵp o’r Chweched Dosbarth.
“Dwi’n teimlo mae o am fod yn ddiwrnod hwyl a da i blant yn yr ysgol,” meddai Gruff Bebb, Prif Ddisgybl yn yr ysgol, wrth golwg360.
“Rydym am godi gymaint ag yr ydan ni’n gallu, ac nid ydym efo unrhyw darged cadarn.
“Rydym yn cael problemau mawr efo arian ym Mhrydain efo arian yn ein hardal ni, yn enwedig mae yna problem fawr iawn efo tlodi.
“Dw i’n meddwl mewn ysgol sydd yng nghanol y gymuned fel Syr Hugh, mae’n hollbwysig bod ni’n chwarae ein rhan ac yn codi pres i bobol sydd mewn trafferth yn yr ardal yma.”