Mae prosiectau arbennig wedi cael ei lansio yn ardal Llanbed gyda’r bwriad o gryfhau cymunedau gwledig yn lleol.

Fe fydd Canolfan Tir Glas yn cwmpasu chwe phrosiect sydd i gyd yn ymwneud â chynaliadwyedd, gan gynnwys prosiectau cynhyrchu bwyd a phrosiect adeiladu eco-gyfeillgar.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi trefnu’r prosiect, ac maen nhw’n cydweithio gyda phartneriaid fel y Cyngor Sir a sefydliadau addysg eraill lleol i’w gyflawni.

Mae’r prosiect newydd yn cyd-daro â dathliadau dau ganmlwyddiant y Brifysgol eleni, ac yn rhan o hynny, maen nhw’n awyddus i hyrwyddo campws y dref ymhellach.

‘Rôl ganolog’

“Fel sefydliad craidd yn y dref, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y gwaith o adfywio Llambed yn y cyfnod wedi Covid,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost campws y Brifysgol yn Llanbed.

“Mae’r Brifysgol yn ei hystyried ei hun yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol a fydd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn ogystal â darparu ffordd ymlaen ar gyfer tref Llambed, y weledigaeth i Ganolfan Tir Glas yw darparu cyfle i’r Brifysgol ddatblygu portffolio newydd o raglenni, gan weithio’n gydweithredol ag ystod o bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi Llambed i ddod yn ganolfan rhagoriaeth ym meysydd cynaliadwyedd a chydnerthedd.

“Mae’r pandemig wedi newid agweddau pobl tuag at yr amgylchedd, iechyd a llesiant, a chan fod Llywodraeth Cymru yn pwysleisio’n fwyfwy brif egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae sefydlu Canolfan Tir Glas yn amserol ac yn ddatblygiad i’w groesawu’n lleol ac yn genedlaethol.”

Y chwe phrosiect o fewn Canolfan Tir Glas fydd:

  • Pentref Bwyd Pontfaen
  • Hwb Bwyd Cymunedol
  • Academi Bwyd Cyfoes Cymru
  • Hwb Mentergarwch Gwledig
  • Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru
  • Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC