Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Parchedig Lyn Lewis Dafis o Benrhyn-coch yng Ngheredigion, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “cyfaill gofalgar a deallus”.

Bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yr wythnos hon yn 61 oed.

Yn wreiddiol o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro, fe aeth i’r Brifysgol yn Aberystwyth gan ennill gradd yn y Gymraeg.

Wedi hynny, roedd wedi gweithio gyda llyfrgelloedd Morgannwg Ganol a Dyfed, fel oedden nhw bryd hynny, cyn mynd ymlaen i fod yn “aelod ffyddlon, galluog a gwerthfawr” o Lyfrgell Genedlaethol Cymru am tua chwarter canrif.

Dywedodd prif weithredwr y llyfrgell, Pedr ap Llwyd, y bydd yn “gadael bwlch enfawr ar ei ôl.”

Roedd Andrew Green, prif weithredwr y Llyfrgell tra’r oedd Lyn Lewis Dafis yn gweithio yno, wedi ategu ar gyfryngau cymdeithasol bod y newyddion yn “drist ofnadwy,” a’i fod yn “ddyn hynaws, gwybodus, egwyddorol, ac yn gyfaill i lawer iawn.”

‘Pawb yn bwysig i Lyn’

Yn 2014, fe adawodd Lyn Lewis Dafis y Llyfrgell i hyfforddi i fod yn offeiriad yng Ngholeg Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd, ac wedi iddo gymhwyso, aeth yn ôl i weithio yn ardal Aberystwyth, gan gynnwys yn Eglwys Padarn Sant yn Llanbadarn.

Fe wnaeth y Parchedig Ganon Andrew Loat, a fu’n cydweithio â Lyn Lewis Dafis yn yr eglwys honno dalu teyrnged iddo hefyd.

“Roedd pawb yn bwysig i Lyn,” meddai wrth golwg360.

“Nid yn unig yn yr eglwys, ond yn yr holl gymuned hefyd.

“Roedd e’n hoff iawn o’i waith gyda’r ysgolion a gweithio gyda phlant. Roedd e’n ofalgar o bob un.

“Roedd e’n ddyn llawn hiwmor hefyd, ac yn ddeallus iawn. Roedd e’n darllen cymaint o lyfrau, ac roedd cymaint o wahanol bynciau ac ieithoedd o ddiddordeb iddo.

“Bydda i’n gweld ei eisiau e’n ofnadwy.”