Fe fydd trigolion Llanbed yn ymgasglu ar gyfer gorymdaith arbennig i ddathlu Gŵyl Dewi fore heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 5).

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu drwy gydol yr wythnos gan y gymuned er mwyn dathlu Cymreictod yn y dref.

Neithiwr (nos Wener, Mawrth 4), roedd noson wedi ei chynnal yn y Clwb Rygbi i ddathlu pen-blwydd papur bro Clonc yn 40 oed, gyda’r digrifwr Gary Slaymaker yn arwain.

Bydd e hefyd yn arwain y parêd heddiw, ac mae wedi siarad â golwg360 am y cyfle i gael dychwelyd i’w ardal frodorol am y tro cyntaf ers sbel.

‘Syrpreis’

Bydd y parêd heddiw yn dechrau yn Ysgol Hŷn Bro Pedr, cyn mynd draw at gartref Hafan Deg ac yna yn ôl drwy ganol y dref.

Ymhlith y rhai fydd yn gorymdeithio bydd Maer a Maeres y dref, yr Aelod Seneddol lleol Ben Lake, a’r Aelod o’r Senedd a’r Llywydd Elin Jones.

Fe fydd aelodau o Gôr Cwmann, Merched y Wawr a gweddill y gymuned yn bresennol hefyd.

O ran trefniadau’r diwrnod, dywed Gary Slaymaker y bydd popeth yn “syrpreis” iddo.

“Y cyfan rwy’n gwybod yw ’mod i ar flaen y peth,” meddai.

“Fydda i jyst yn twyllo pobol a dweud mai ras yw e, a ’mod i’n cael head start!

Teg edrych tuag adref

Fe fydd y dathliad yn gyfle i bobol gwrdd ar ôl dwy flynedd o’r pandemig, ac fe fydd yn gyfle i Gary Slaymaker gael cwrdd â hen ffrindiau.

“Wy’ heb fod yn ôl i Lanbed ers tair blynedd,” meddai.

“Mae hwnna i fi y tu hwnt i sioc, achos o’n i’n mynd o leiaf dwywaith y flwyddyn cyn hynny.

“Fydd hi jyst yn neis i ddala lan gyda phobol wy’ heb weld ers tro byd.

“Mae’r Maer Selwyn Walters, sy’n gorymdeithio heddiw, yn gyn-athro Hanes arna i, felly fydd hi’n neis cael rhywun i gloncan gyda!”