Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi galw am adolygiad brys i sefyllfa treth Cyngor y sir, a gweddill Cymru, ar ôl i’r cyngor gytuno i godi’r dreth 2.95%.

Fe gymeradwyodd Cyngor Gwynedd eu cyllideb ar gyfer 2022/23 yn ystod eu cyfarfod llawn heddiw (dydd Iau, 3 Mawrth), yn ogystal â’r codiad i dreth y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ôl y Cyngor, mae rheolaeth ariannol gadarn, yn ogystal â’r cynnydd i dreth cyngor, am eu galluogi i ddiddymu neu oedi ar tua 75% o’r toriadau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn ei gyfanrwydd, bydd cyllideb Cyngor Gwynedd ar gyfer 2022/23 yn £295 miliwn, gyda £213 miliwn yn dod gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant, a’r £82 miliwn sy’n weddill yn cael ei godi’n lleol drwy’r dreth cyngor.

‘Annheg’

Siôn Jones
Siôn Jones, Cynghorydd Bethel

Dywed y Cynghorydd Sion Jones, sy’n cynrychioli ward y Bethel, fod y penderfyniad i godi’r dreth angen ei adolygu wrth ystyried yr argyfwng costau byw sy’n wynebu cymaint o deuluoedd ar draws y sir.

Roedd yn pryderu hefyd bod treth y cyngor wedi codi ar gyfradd sylweddol dros y ddeng mlynedd diwethaf.

“Mae’r sefyllfa o ran y dreth Cyngor yng Ngwynedd ac yng Nghymru angen adolygiad brys,” meddai.

“Rydym wedi codi’r dreth yng Ngwynedd dros 40% yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, ond dros y ddegawd ddiwethaf rydym wedi cael llai o wasanaethau yn y Sir.

“Mae’r codiad heddiw o 2.95% yn y dreth yn ychwanegiad annheg iawn tuag at filiau trigolion.

“Gyda nwy, trydan, a chwyddiant ar eu huchaf erioed, mae’n mynd yn sefyllfa beryglus iawn i deuluoedd Gwynedd, ac mae rhaid i Lywodraeth Cymru nawr sicrhau bod newid yn y system drethi.”

‘Y system yn methu’

Yn ystod y cyfarfod heddiw, dywedodd y Cynghorydd Jones a rhai cynghorwyr eraill fod Cyngor Gwynedd yn gwario arian yn “afreolus,” yn enwedig ar ôl rhoi diwrnod o wyliau i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’n debyg bod hynny wedi costio hyd at £200,000 i’r awdurdod.

“Byddai wedi bod modd gwario hwn ar leihau’r dreth tipyn,” meddai’r Cynghorydd Jones.

Ychwanegodd ei fod yn “croesawu” cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n rhoi taliad o £150 i drigolion sy’n byw mewn eiddo band A i D, ond bod hynny’n arwydd bod “y system yn methu.”

‘Setliad ariannol tecach’

Yn ôl Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ioan Thomas, “mae setliad ariannol Llywodraeth Cymru eleni yn decach nag y bu ers blynyddoedd lawer”.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod yn rhaid i’r Cyngor ymgodymu â nifer o ffactorau sy’n cynyddu’r pwysau ar ein cyllideb,” meddai.

“Mae’r rhain yn cynnwys y gyfradd chwyddiant uchaf ers nifer o flynyddoedd, a’r angen i barhau i wario symiau sylweddol ar ein hymateb sy’n parhau i Covid-19, yn enwedig pan ddaw cyllid brys y llywodraeth i ben ddiwedd y mis hwn.

“Trwy gynllunio gofalus rydym wedi gallu cyfyngu’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor eleni i 2.95%, sy’n cyfateb i gynnydd wythnosol o 84c ar gyfer cartref Band D.

“Rydym yn llwyr werthfawrogi fod hwn yn gyfnod anodd i lawer o gartrefi, a byddem yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth talu Treth Cyngor i ymweld â’n gwefan i weld a ydynt yn gymwys am ostyngiad Treth Cyngor neu unrhyw gymorth ariannol arall.”

‘Effaith gadarnhaol ar fywydau pobol leol’

Fel rhan o’r strategaeth ariannol ar gyfer 2022/23, cytunodd y Cyngor Llawn i fuddsoddi mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Cyflwyno Timau Tacluso ‘Ardal Ni’ newydd fel rhan o gynllun Cymunedau Glân a Thaclus y Cyngor. Mewn ymateb i flaenoriaethau lleol, bydd y timau ymateb cyflym newydd hyn yn mynd i’r afael â phroblemau fel tipio anghyfreithlon, graffiti, a blerwch cyffredinol mewn cymunedau;
  • Dileu ffioedd teithio addysg ôl-16 fel na fydd yn rhaid i fyfyrwyr 16 i 25 oed dalu ffi flynyddol o £300 i deithio i goleg neu ysgol o fis Medi 2022;
  • Cyflogi staff newydd i fynd i’r afael â phroblemau baw cŵn;
  • £3 miliwn i gyflawni Cynllun Newid Hinsawdd y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cerbydau casglu gwastraff trydan, gwneud adeiladau cyhoeddus yn ynni-effeithlon a hyrwyddo bioamrywiaeth.

“Er bod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn anodd, rwy’n falch o’r ffaith ein bod eleni wedi gallu buddsoddi mewn nifer o fentrau newydd i wella gwasanaethau i bobl Gwynedd,” meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

“Mewn ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd, rydym yn cynyddu ein buddsoddiad yn sylweddol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor ymhellach.

“Mae pobol leol yn dweud wrthym yn aml fod angen gwneud mwy i gadw trefi a phentrefi yn lân a thaclus.

“Rydym wedi gwrando, a byddwn yn cyflwyno timau newydd a fydd yn gweithio gyda chymunedau i fynd i’r afael â’u blaenoriaethau amgylcheddol lleol.

“Er mwyn helpu cymaint o bobl ifanc â phosib i gael mynediad at addysg ôl-16, o fis Medi ymlaen byddwn yn cael gwared ar y ffi cludiant o £300 y mae pobol ifanc 16 i 25 oed yn ei dalu ar hyn o bryd i gyrraedd yr ysgol neu’r coleg.

“Rwy’n hyderus y bydd y rhain, a’r mesurau rhagweithiol eraill y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Llawn, yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl leol, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu cyflawni dros y misoedd nesaf.”

“Angen diwygio”

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cytuno bod angen diwygio cyllid llywodraeth leol, a’u bod nhw ewdi ymrwymo i’w wneud “yn decach ac yn fwy blaengar”.

“Y dreth gyngor yw un o’r ffurfiau mwyaf atchwiliadol ar drethi ac mae’n effeithio’n anghymesur ar aelwydydd tlotach, ac yn gwaethygu anghydraddoldeb daearyddol hirsefydlog. Dyma pam, yn ddiweddarach eleni, y byddwn yn ymgynghori ar becyn cychwynnol o ddiwygio’r dreth,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn cydnabod yn llwyr y pwysau sydd ar aelwydydd a dyma pam rydym yn darparu pecyn cefnogi costau byw gwerth £330m.

“Mae hyn yn cynnwys y taliad costau byw o £150 yn ogystal â £200 ychwanegol ar gyfer aelwydydd incwm isel drwy Daliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf nesaf. Byddwn hefyd yn dechrau cyflwyno darpariaeth prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd o fis Medi eleni, a fydd yn helpu cyllid llawer o deuluoedd.

“Ddydd Mawrth, fe wnaethom gyhoeddi’r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2022-23. Bydd cyllid refeniw craidd yn cynyddu 9.4% ar sail tebyg am debyg o gymharu â’r flwyddyn gyfredol.

“Ni fydd unrhyw awdurdod yn derbyn cynnydd o lai nag 8.4%. Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol sy’n rhoi llwyfan sefydlog i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllidebau, a lefelau’r dreth gyngor, ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.”