Mae menter gymdeithasol Siop Griffiths Cyf. ym Mhenygroes ger Caernarfon wedi cael eu henwebu ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant eleni.

Nod y fenter yw rhedeg busnesau a phrosiectau sydd o fudd i’r gymuned, gan hybu cynaliadwyedd ac eco-gyfeillgarwch yn y broses.

Byddan nhw’n wynebu dau enwebiad arall – sef Carole Anne Dacey a’r darlledwraig Ruth Dodsworth – yn y categori Ysbryd y Gymuned eleni.

Cafodd yr hen Siop Griffiths ei chau yn 2011 ar ôl darparu nwyddau i drigolion yr ardal am dros 100 mlynedd, felly cafodd menter gymunedol ei sefydlu’n ddiweddarach er mwyn ceisio prynu’r adnodd.

Yn 2019, cafodd yr adeilad ei hail-hagor dan enw Yr Orsaf, ac mae bellach yn gwasanaethu fel caffi a llety hefyd.

Drwy weithredu ar arian o gronfeydd ac arian sydd wedi ei godi yn lleol, mae’r fenter wedi mynd o nerth i nerth dros y tair blynedd diwethaf.

‘Wrth ein boddau’

Dywed Ben Gregory, ysgrifennydd Siop Griffiths Cyf., bod yr enwebiad yn golygu llawer iddyn nhw.

“Rydyn ni wrth ein boddau,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi ein synnu oherwydd doedden ni ddim yn disgwyl cael enwebiad o’r fath, ond mae’n fraint go iawn cael ein henwebu ar gyfer y gwobrau.

“Maen nhw’n bwysig iawn yng Nghymru, felly rydyn ni’n hapus i gael yr enwebiad.”

Mae gan fenter Siop Griffiths Cyf. nifer o brosiectau cymdeithasol ar y gweill hefyd, gan gynnwys caffi trwsio, gofod gwneud, a chanolfan ddigidol i bobol ifanc.

Yn ogystal, mae nifer o’u prosiectau yn hyrwyddo eco-gyfeillgarwch, er enghraifft y prosiect trafnidiaeth gymunedol, sy’n darparu cludiant i bobol leol drwy ddefnyddio cerbydau trydan.

‘Y gefnogaeth yn hollbwysig’

“Rydyn ni’n cael lot o gefnogaeth gan y gymuned,” meddai Ben wedyn.

“Maen nhw wedi ein helpu ni i brynu rhai o’n hadeiladau ni. Fe godon ni dros £50,000 yn wreiddiol yn 2016 i brynu adeilad gwag yr hen Siop Griffiths.

“Heb eu cefnogaeth nhw ar y dechrau, bydden ni ddim yn bod yma rŵan i siarad am yr enwebiad.

“Mae’r gefnogaeth yn hollbwysig.”

‘Ysbryd cymunedol anhygoel’

Cafodd holl enwebiadau Gwobrau Dewi Sant eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, 17 Chwefror) gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Mae rhai o’r bobl sydd ar y rhestr fer wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol,” meddai Mark Drakeford.

“Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel er gwaetha’r pwysau aruthrol o fyw drwy bandemig y coronafeirws.

“Mae ein teilyngwyr yn bobol syfrdanol ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw yng Nghymru.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’i amser i enwebu rhywun am wobr – yn anffodus mae’n amhosib rhoi pawb ar y rhestr fer.”

Mae rhai o’r enwebiadau eraill yn cynnwys Dr Eilir Hughes, meddyg teulu o Nefyn sydd wedi sefydlu ymgyrchu Awyr Iach yn ystod y pandemig; Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris; Ysgol Esceifiog ar Ynys Môn am y gefnogaeth roddodd yr ysgol wrth gefnogi disgybl â salwch angheuol; a’r awdur Jessica Dunrod am ei gwaith yn sicrhau amrywiaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg.