Fe allai staff cyngor Ceredigion wynebu tlodi drwy gael eu gorfodi i weithio gartref, yn ôl undeb.
Mae undeb Unsain yn honni y bydd yn rhaid i weithwyr sy’n gwresogi eu cartrefi yn ystod y dydd dalu mwy am eu biliau ynni na phe baen nhw’n teithio i’r gwaith.
Wrth ystyried y bydd y cap ar gostau ynni a biliau band llydan yn codi ym mis Ebrill hefyd, mae’n debyg y bydd rhai yn cael eu gwthio i dlodi yn y broses, meddai Unsain.
Yn sgil hynny, mae arweinwyr yr undeb, sy’n cynrychioli nifer o staff Cyngor Ceredigion, wedi galw arnyn nhw i roi lwfans tecach i weithwyr er mwyn talu’r costau ychwanegol hynny.
Gwrthwynebu’r alwad
Er bod prif weithredwr y cyngor, Eifion Evans, wedi ymrwymo i barhau i ystyried y penderfyniad, mae’r awdurdod lleol wedi gwrthod y cynnig gan undeb Unsain.
Mae’n debyg mai Ceredigion fydd y sir sy’n gweld y cynnydd mwyaf yng Nghymru mewn biliau ynni, a’r ail uchaf yn y Deyrnas Unedig,
Gallai hynny olygu bod biliau’n codi cymaint â 50% ac £863 i rai o drigolion y sir.
Roedd yr undeb hefyd yn nodi bod biliau band llydan a galwadau ffôn yn debygol o godi o 10% ym mis Ebrill – rhywbeth mae gweithwyr yn dibynnu arno wrth weithio o bell.
Ar ben hynny, bydd Yswiriant Gwladol yn codi 1.25% o 6 Ebrill ymlaen, sy’n golygu y gallai gweithiwr sy’n ennill £25,000 yn flynyddol orfod talu £152 bob flwyddyn, tra bod rhywun sydd ar gyflog o £40,000 yn gorfod talu £339.
Roedd ysgrifennydd Unsain yng Ngheredigion, Alison Boshier, yn adleisio ple’r gweithwyr.
“Gall gweithio o gartref fod yn ddrud iawn gyda’r costau trydan, gwres a band eang ychwanegol, a dydy’r biliau hyn ond yn mynd i godi,” meddai.
“Mae angen i weithwyr gael eu digolledu am hyn gan eu cyflogwr yn enwedig gan ein bod yn parhau i fod yng nghanol y gaeaf.
“Hefyd, bydd llawer o aelodau yn wynebu’r dewis anodd rhwng bwyta neu wresogi heb gymorth.”
‘Cyfrifoldeb i’w staff’
Ychwanegodd Simon Dunn, trefnydd rhanbarthol Unsain yng Ngheredigion, bod gan “bob awdurdod lleol gyfrifoldeb i’w staff.”
“Rydym yn siomedig iawn fod Cyngor Ceredigion wedi penderfynu peidio â digolledu’r bobol niferus y maen nhw’n eu cyflogi sy’n dal i weithio o gartref,” meddai.
“Ond rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y prif weithredwr i gadw hyn dan adolygiad.
“Mae’r argyfwng costau byw rydyn ni i gyd yn ei wynebu yn real iawn a byddwn ni fel undeb yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y gweithwyr hynny sy’n dibynnu arnon ni i leisio’u barn.”
Ymateb y Cyngor
Mewn ymateb i’r galwadau, dywed Cyngor Ceredigion eu bod nhw’n asesu’r sefyllfa ar hyn o bryd.
“Wrth i sefyllfa’r pandemig barhau i newid, mae’r Cyngor yn gweithio ar drefniadau ar hyn o bryd a fydd yn darparu dull hyblyg o ran ble fydd staff yn gweithio yn y dyfodol,” meddai llefarydd ar eu rhan.
“Mae Covid-19 yn parhau i fod yn risg yn y dyfodol agos ac, o ganlyniad, bydd unrhyw ddychwelyd i’r swyddfa yn cael ei gynllunio mewn modd ystyriol ac sy’n ddiogel o ran Covid-19.”