Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid Parc y Coleg fel man mwy “hygyrch, diogel a chyfeillgar” i fyfyrwyr y ddinas.

Daw hyn ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus nodi pryderon ynglŷn â hygyrchedd, diffyg cysylltiadau ar droed a phroblemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch yn yr ardal bresennol.

Bydd gwaith yn dechrau yn yr wythnosau nesaf ar adnewyddu’r parc, sydd wedi ei leoli ar y llethrau o flaen Prif Adeilad y Celfyddydau’r Brifysgol a Chanolfan Pontio.

Yn rhan o hynny, bydd y strwythur celf dadleuol, y ‘Caban’, yn cael ei symud o’i safle presennol a’i gadw mewn storfa, gyda’r bwriad o’i arddangos yn rhywle arall.

Cafodd y strwythur ei ddylunio gan artist o’r Iseldiroedd, Joep van Lieshout, ac mae nifer wedi beirniadu ei edrychiad a’i gost dros y blynyddoedd.

Yn ei le, bydd ardal berfformio fechan ac amffitheatr fach yn cael eu hadeiladu, gan ddefnyddio’r gofod i arddangos talent artistig a pherfformio.

Y gobaith yw cwblhau’r gwaith yn llwyr erbyn y flwyddyn nesaf.

‘Creu ardal llawer mwy deniadol’

Fe wnaeth y brifysgol gydweithio gyda Chyngor Gwynedd er mwyn sicrhau arian ar gyfer y prosiect drwy gynllun ‘Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru.

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn dweud bod y cynllun wedi ei lunio ar gyfer “bywiogi canol ein trefi”.

“Rwy’n falch ein bod wedi medru cyfrannu at y prosiect pwysig yma trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi,” meddai.

“Dylai Parc y Coleg fod yn gaffaeliad pwysig i’r ddinas, gan ei fod dros y lôn o’r brif ardal siopa.

“Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad hwn yn creu ardal lawer mwy deniadol i bobol ei defnyddio yng nghanol y ddinas.

“Gwyddwn fod treulio amser mewn ardaloedd gwyrdd yn wych ar gyfer lles, felly rydym eisiau annog pobol i gymryd amser i’w hunain i ymarfer corff a mwynhau byd natur, tra hefyd yn darparu gofod cyhoeddus hygyrch ar gyfer digwyddiadau allanol.”

‘Pont o dir’

Yn ôl Prifysgol Bangor, y weledigaeth ar gyfer y parc yw creu man gwyrdd croesawgar yng nghanol y ddinas, sy’n ddiogel a hygyrch i bawb.

Bydd y datblygiad yn creu lle i annog y cyhoedd i gynnal digwyddiadau ar raddfa fechan, ymarfer corff, ac i ymgynnull gydag eraill.

Yn ogystal â hynny, bydd yn cynnwys yr hyn mae’r brifysgol yn eu galw’n ‘parthau natur’, sy’n cynnwys mannau i fyfyrio a mannau i arsylwi bywyd gwyllt.

“Rydym mor ffodus i gael man gwyrdd mor fawr mor agos at ganol y ddinas, sy’n creu ‘pont o dir’ gwyrdd rhwng y brifysgol a’r ddinas,” meddai Lars Wiegand, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor.

“Rhoddwyd y tir i’r brifysgol gan y ddinas, pan adeiladwyd prif adeilad y brifysgol. Ac rydym eisiau ei wneud yn le dymunol a phoblogaidd i bawb.”

Yn ystod cam cyntaf y gwaith, bydd rhai coed yn cael eu torri er mwyn gwella golygfeydd o gwmpas y parc.

Yn dilyn hynny, caiff y coed sy’n cael eu torri eu hailgylchu a’u hailddefnyddio o gwmpas y parc ar wahanol ffurfiau.

Dylai strwythur y ‘Caban’ ddiflannu o’i safle presennol erbyn diwedd y mis hefyd.