Mae trigolion pum ardal yng Ngwynedd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd er mwyn trafod a rhannu syniadau am yr argyfwng hinsawdd.

Mae prosiect GwyrddNi, sy’n fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi’i leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned, am gynnal Cynulliadau Cymuned ym Mhen Llŷn, Blaenau Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, a Dyffryn Peris yn ystod 2022-23.

Bydd y Cynulliadau yn gyfle i bobol ddod at ei gilydd i drafod, gwrando, rhannu, trafod, dysgu a phenderfynu efo’i gilydd beth maen nhw – fel cymuned – isio’i wneud yn lleol i daclo newid hinsawdd.

Does dim rhaid i bobol wybod unrhyw beth er mwyn ymuno, dim ond bod yn barod i rannu safbwyntiau a barn, a gwrando ar farn eraill, meddai GwyrddNi.

Bydd awyrgylch hamddenol yn y Cynulliad, ac maen nhw ar gyfer unrhyw un dros 16 oed sy’n byw yn y pum ardal dan sylw.

‘Pawb â llais’

Mae hi’n bosib cofrestru nawr ar gyfer cymryd rhan, a bydd 50 o bobol o bob ardal yn cael eu dethol i fynychu’r Cynulliadau wedyn.

“Byddwn ni’n cael arbenigwyr i ddod mewn i siarad efo nhw, ella byddwn ni’n mynd ar deithiau, byddan ni’n ystyried pob math o dystiolaeth, a thrafod a dod fyny efo syniadau, gobeithio,” meddai Chris Roberts, hwylusydd GwyrddNi yn Nyffryn Ogwen, wrth golwg360.

Chris Roberts

“Y peth sy’n rili apelio i fi am GwyrddNi ydy’r syniad bod gan bawb lais, a bod gan bawb syniadau, a’i fod o’n rhoi’r gofod yna i bobol wahanol ddod at ei gilydd i gyd-drafod, syniadau fysa ella ddim yn digwydd fel arall achos bod pawb yn cael eu gofod yna i feddwl yn ddwys am y pwnc.

“Ella bod gofyn i bobol roi cyfres o ddiwrnodau i un ochr i feddwl ddim yn rhywbeth rydyn ni’n ei wneud ddigon, a bod y pŵer yna yn y syniadau gwahanol.”

Rhan o’i waith fel hwylusydd y prosiect yn Nyffryn Ogwen yw siarad â phobol yr ardal a thrafod syniadau, ac mae GwyrddNi yn gweithredu mewn partneriaeth â phum sefydliad cymunedol ymhob un o’r pum ardal.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos efo Partneriaeth Ogwen, sy’n gwneud lot yn y gymuned yn barod, ond mae yna gymaint o brosiectau a grwpiau hollol annibynnol yn mynd ati i wneud gwaith yno,” meddai Chris Roberts, gan egluro bod Clwb Rygbi Bethesda yn glwb carbon niwtral, a bod yna brosiect ynni cymunedol yn yr ardal a grŵp Bethesda di-blastig.

“Mae yna gymaint o bobol yn gwneud gymaint o bethau yn y Dyffryn yn barod, mae’n grêt cael mynd i rywle lle mae lot o’r datrysiadau amlwg, ella, ar waith yna felly rydyn ni’n cael dechrau adeiladu ar hynny a gweithio ar syniadau newydd.

“Dw i methu disgwyl clywed be’ fydd bobol y Dyffryn yn dod fyny â nhw.”

‘Creu dyfodol iach’

Mae Cynulliadau Cymunedol ar newid hinsawdd yn cael eu cynnal mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac mae cynulliadau dinasyddion cenedlaethol wedi’u cynnal i drafod y pwnc dros y byd hefyd.

Caiff GwyrddNi ei ariannu gan Gronfa Gweithredu y Loteri Genedlaethol, ac mae’n rhan o fenter gymdeithasol Datblygiadau Egni Gwledig.

Yn ogystal â chydweithio â Phartneriaeth Ogwen ym Methesda, mae GwryddNi yn gweithio â Chyd Ynni yn Nyffryn Peris, Siop Griffiths/Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn.

Dywed Ben Gregory, Aelod Bwrdd Siop Griffiths/Yr Orsaf, fod hwn yn waith “allweddol”.

“Mae’n wych bod chwech o fentrau cymdeithasol yng Ngwynedd wedi medru uno i ffurfio GwyrddNi, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld bwrlwm a chanlyniadau’r Cynulliadau Cymunedol,” meddai.

“Mae hwn yn waith allweddol fydd yn uno trigolion ein cymunedau i gydweithio a chreu dyfodol iach a ffyniannus i’r genhedlaeth nesaf.”

Bydd y Ffurflenni Mynegi Diddordeb mewn cymryd rhan yn y Cynulliadau ar agor tan Ebrill 4 2022, a bydd 50 o bobol o bob ardal yn cael eu dewis wedyn gan roi ystyriaeth i ddemograffeg megis oedran, rhyw, ethnigrwydd, yn ogystal â barn ar newid hinsawdd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan GwyrddNi.