Bydd nifer o bobol yn ymgasglu ger cloc Bangor dros y penwythnos i ymbil ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ar yr argyfwng costau byw.
Mae sawl protest wedi eu trefnu ledled y Deyrnas Unedig gan ymgyrch Cynulliad y Werin, a fydd yn cael eu cynnal brynhawn dydd Sadwrn (12 Chwefror).
Daw hyn yn sgil cyfres o godiadau mewn gwahanol gostau, sydd fwy na thebyg am roi pwysau difrifol ar deuluoedd ar hyd y wlad.
Ym mis Ebrill, bydd y cap ar gostau ynni yn cael ei godi o 54% yn ôl y rheoleiddiwr OFGEM, sy’n golygu bod aelwydydd yn wynebu talu dwbl y pris bob blwyddyn.
Ar ben hynny, mae chwyddiant a chostau cartrefi cynyddol, yn enwedig yn sgil y pandemig, wedi cyfrannu at yr argyfwng costau byw sy’n “effeithio ar bawb,” yn ôl un o drefnwyr y brotest ym Mangor.
‘Effeithio ar bawb’
Ymhlith y siaradwyr ym Mangor mae cynrychiolwyr o undeb Unite the Union, Plaid Ifanc (cangen ieuenctid Plaid Cymru), Undeb Myfyrwyr Bangor, a Chynulliad y Werin Cymru.
Bydd protest gyfatebol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf (dydd Sadwrn, 19 Chwefror) ar y Sgwâr Canolog.
Un o drefnwyr y brotest ym Mangor yw Edryd Gwyfyn, aelod o blaid wleidyddol Breakthrough a gafodd ei sefydlu’r llynedd.
Mae’r blaid honno’n disgrifio’u hunain fel “plaid sosialaidd ddemocrataidd, dan arweiniad y cenedlaethau iau sy’n ceisio etifeddu byd mewn argyfwng.”
“Mae’r Argyfwng Costau Byw yn effeithio ar bawb,” meddai Edryd Gwyfyn.
“Bydd myfyrwyr, teuluoedd sy’n gweithio a’r rheiny sydd wedi ymddeol i gyd yn cael eu taro gan hyn.”
Mae Llywodraeth Prydain wedi addo tocio £150 oddi ar filiau treth y cyngor yn Lloegr, er mwyn helpu gyda’r cresisus costau byw – ond mae dryswch a fydd yr arian yma ar gael i’r Cymry.
Ond hyd yn oed os fydd o’n dod i Gymru, nid yw yn ddigonol, meddai Edryd Gwyfyn.
“Dydy ‘ad-daliad’ y llywodraeth ddim yn ddigon da. A dweud y gwir, dim ond benthyciad ychwanegol ydy o ar ben costau tanwydd sydd eisoes yn uchel iawn.
“Mae’r llywodraeth unwaith eto yn gorfodi pobol i benderfynu rhwng gwresogi a bwyta. Maen nhw’n mynd fwy a fwy allan o gysylltiad â phrofiad yr etholwyr o fyw gyda baich dros ddegawd o doriadau.
“Dydy hi ddim yn ymarferol disgwyl i bobol sydd eisoes yn delio â chaledi’r ddwy flynedd ddiwethaf orfod talu symiau anferthol o arian.”
‘Mwy o ergyd i Gymru’
Roedd Hywel Williams a Siân Gwenllïan, yr Aelodau Seneddol dros Arfon, wedi rhoi sêl bendith i’r brotest, er nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol.
Eglurodd yr Aelod Seneddol Hywel Williams y bydd yr argyfwng costau byw – yn enwedig wrth ystyried y cynnydd mewn costau ynni – yn cael mwy o effaith ar y boblogaeth yng Nghymru.
“Mae am fod yn fwy o ergyd i Gymru gan fod gennyn ni ganran uwch o bobol sy’n sâl, hen, neu’n dlawd,” meddai wrth golwg360.
“Ac oherwydd bod y cyflogau’n is yma, mae pethau fel bwyd a thrydan yn cymryd canran uwch o gyflogau rhywun.”
‘Ond yn deg eu bod nhw’n rhannu’r elw’
Dywedodd Hywel Williams ei fod yn cefnogi un o’r syniadau sy’n cael ei wthio yn y brotest heddiw (dydd Sadwrn, 12 Chwefror), sef gosod treth ychwanegol ar gwmnïau ynni sy’n gwneud elw mawr.
Bydd prisiau ynni’n codi 54% yn y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill, ar ôl i’r Llywodraeth godi’r cap oedd wedi ei osod ar gwmnïau ynni.
“Rydyn ni’n gweld gwledydd eraill yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol,” meddai.
“Er enghraifft, mae’r codiad yn Ffrainc am fod yn 4%, lle ym Mhrydain, fe fydd o’n 54%.
“Mae’n arbennig o arwyddocaol ar hyn o bryd am fod pris ynni wedi neidio gymaint, gan fwyaf am fod prisiau nwy wedi codi. Ond i’r rheiny sydd yn cynhyrchu olew, maen nhw’n gwneud arian mawr iawn drwy hyn.
“Felly mae’r syniad o roi treth ar hap arnyn nhw yn syniad da iawn, er mwyn eu hatal nhw rhag gwneud elw nad ydyn nhw wedi ei haeddu.
“Mae hi ond yn deg eu bod nhw’n rhannu’r elw hwnnw.”