Mae Menter Tafarn y Vale yn chwilio am unigolion i ddangos diddordeb yn rheoli’r adnodd cymunedol yn Nyffryn Aeron.

Llwyddodd y fenter gymunedol i gyrraedd targed ariannol o £330,000 ar ddechrau mis Rhagfyr y llynedd, a olygodd eu bod nhw’n gallu dechrau’r broses o brynu’r dafarn.

Ar ôl blynyddoedd dan berchnogaeth Rowland a Daphne Evans, fe gafodd yr adeilad yn Nyffryn Aeron ei rhoi ar y farchnad.

Penderfynodd criw lleol ddod ynghyd i ystyried a fyddai’n bosib dal gafael yn y dafarn, sydd wedi bod yn rhan o galon y gymuned ers blynyddoedd lawer.

Wedi eu hysbrydoli gan fentrau cymunedol eraill, fel Menter Tyn Llan yn Llandwrog, fe aethon nhw ati i godi arian er mwyn prynu’r adeilad.

Gan ddenu buddsoddiad gan y sêr o Hollywood, Matthew Rhys a Rhys Ifans, yn ogystal â busnesau a mudiadau lleol, fe chwalon nhw’r targed i sicrhau eu bod nhw’n gallu prynu’r dafarn.

Agor cyn gynted â phosib

Ar ôl casglu’r arian cyn y Nadolig, mae criw Menter Tafarn y Vale wedi bod yn trafod eu camau nesaf.

“Fe gawson ni frêc haeddiannol dros y Nadolig ar ôl codi’r arian,” meddai Lowri Jones, sy’n rhan o’r fenter.

“Ond fel criw, rydyn ni wedi cwrdd cwpl o weithiau yn y flwyddyn newydd i weld beth sydd angen ei wneud nesa.

“Mae’r pryniant yn mynd trwyddo ar hyn o bryd – pethau sy’n gallu cymryd amser – ond rydyn ni’n obeithiol bod pethau’n mynd yn iawn efo hynny.”

Mae’r fenter yn ceisio am grantiau yn y cyfamser, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw welliannau sy’n cael eu gwneud yn y dyfodol.

Ond y bwriad yw tynnu’r peintiau cyn gynted â phosib, a hynny cyn mynd ati i wneud unrhyw waith.

“Mae’n fater o wythnosau, neu fisoedd efallai, nes y bydd gyda ni allweddi i’r Vale, ond mewn byd delfrydol, byddwn ni’n gallu agor yn syth pan fydd hynny’n digwydd,” ychwanegodd Lowri.

“Mewn byd delfrydol, bydden ni eisiau cadw’r lle ar agor wrth wneud unrhyw waith, a byddai’r gwaith hynny’n digwydd wedyn yn nes at yr Hydref a’r Gaeaf nesaf.”

Chwilio am ‘berson pobol’

Ar gyfer swydd y rheolwr, mae Lowri yn dweud y byddan nhw’n chwilio am rywun “brwdfrydig” a “pherson pobol.”

“Mae llwyth o bobol wedi dangos diddordeb yn y fenter ei hunan, felly dw i’n siŵr y byddai hi ddim yn syndod ein bod ni’n dechrau chwilio am reolwr,” meddai.

“Rydyn ni’n lwcus ein bod ni wedi codi cymaint o arian dros y targed, sy’n golygu ein bod ni’n gallu chwilio am reolwr yn syth, ac mae hynny’n rhoi lot o hyblygrwydd inni.

“Rydyn ni naill ai’n chwilio am unigolyn neu fwy nag un person – dydyn ni ddim yn gaeth o ran hynny. Fe allai fod yn rheolwr sy’n llawn amser, neu’n job share.

“Byddwn ni hefyd yn chwilio am berson sydd â rhywfaint o brofiad o weithio mewn tafarn neu rywle sy’n rhoi gwasanaeth bwyd a diod ac ati.

“Gwahodd pobol i ddangos diddordeb ydyn ni ar hyn o bryd er mwyn cael gweld pwy sydd mas yna, a byddai croeso i unrhyw un gysylltu o ran hynny.”