Mae trigolion Sir Ddinbych wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer morgloddiau newydd.
Byddai’r cynllun gwerth £20m, sydd am weld amddiffynfa naw troedfedd o uchder yn cael ei chodi, yn amddiffyn cartrefi yn Rhyl a Phrestatyn rhag llifogydd.
Ond mae rhai sy’n byw yn lleol yn honni y byddai’r prosiect yn amharu ar olygfeydd ac y byddai hynny’n gostwng gwerth eu heiddo.
Fe gafodd trigolion lleol y cyfle i weld cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych yn ystod cyfnod ymgynghori’n ddiweddar.
Roedd sawl un yn anhapus fod y cynllun gwreiddiol i adeiladu’r amddiffynfa ar gyrion cwrs Clwb Golff y Rhyl wedi ei newid, ac y byddai hi nawr yn cael ei hadeiladu yn agosach at stryd Green Lanes ym Mhrestatyn.
Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer llwybr seiclo ar gyfyl yr amddiffynfa newydd.
‘Byddai’n dibrisio ein heiddo’
Mae Jane Stacey, sydd wedi byw ar y stryd ers 25 o flynyddoedd, yn gandryll bod y cynlluniau wedi eu newid.
“Dydyn ni ddim yn hapus o gwbl,” meddai.
“Mae hyn yn mynd i effeithio’n bywydau ni. Mae pobol yn mynd i fod yn beicio ac yn edrych yn syth i lawr i’n gardd. Ond yn fwy na hynny, gallan nhw edrych i lawr i’n hystafelloedd, boed yn y lolfa neu’r ystafell wely.
“Byddai’n rhwystro ein golygfa a byddai’n erchyll pe bai pobol yn gallu edrych i lawr ar ein cartref, ac rwy’n teimlo y byddai’n dibrisio ein heiddo.”
Y Cynghorydd Paul Penlington yw aelod Cyngor Sir Ddinbych dros ogledd Prestatyn, ac fe gefnogodd y trigolion lleol gan gwyno’n lleol i’r Cyngor am y broses ymgynghori.
“Dw i wedi dadlau y dylai Prestatyn gael ei chynnwys yng nghynlluniau Sir Ddinbych i wella amddiffynfeydd morol am nifer o flynyddoedd felly rydw i, wrth gwrs, yn llwyr werthfawrogi’r angen i waith gael ei wneud cyn gynted â phosib,” meddai.
“Fodd bynnag, ni ddylai’r gwaith hwnnw gael effaith andwyol ar gartrefi a llesiant meddwl pobol.
“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhuthro cynlluniau diwygiedig drwodd ar ôl cyfnod ymgynghori cwbl annigonol heb roi amser, na gwybodaeth gywir, i unrhyw un wneud sylw.
“Rwy’n hynod siomedig nad yw barn trigolion a’r effaith ar eu heiddo wedi’u hystyried.”
Ymateb y Cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych y byddai’r cynllun arfaethedig yn “amddiffyn tua 2,100 eiddo ym Mhrestatyn”.
“Mae’r Cyngor wedi cynnal astudiaeth sydd wedi dangos bod rhai morgloddiau sy’n amddiffyn Prestatyn mewn cyflwr gwael a bydd y risg i eiddo yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.
“Rydyn ni wedi gweithio i leihau’r effaith ac i gydbwyso anghenion pawb dan sylw, ac mae’r cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn a helaeth gan ganiatáu i aelodau’r cyhoedd gael dweud eu dweud.
“Roedd hyn hefyd yn cynnwys cyfarfod cyhoeddus, cylchlythyrau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng preswylwyr a staff.
“Fe wnaeth nifer o drigolion roi adborth am eu pryderon am y cynllun fel rhan o’r ymgynghoriad cynllunio cyn ymgeisio, ac mae’r sylwadau hyn wedi’u bwydo i mewn i’r broses gynllunio.”
Mae’n debyg fod y Cyngor wedi “archwilio opsiynau amgen”, ond y byddai hynny’n cynyddu cost y cynllun o £20m i £40m, felly doedden nhw ddim yn credu eu bod nhw’n “hyfyw”.
Dywedon nhw fod cyllid ar gyfer yr amddiffynfa arfordirol “ond ar gael am amser cyfyngedig” a bod angen iddyn nhw fwrw ymlaen â’r cynlluniau “fel nad yw’r cyfle i amddiffyn y cymunedau yn cael ei golli”.
Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno yn y cyfamser, ac mae modd i’r cyhoedd fynegi eu barn yn ystod y broses honno.