Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn fflat ym Mae Cinmel, ger Y Rhyl.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i eiddo ar ystâd dai i’r henoed Plas Foryd, yn dilyn adroddiadau am dân brynhawn ddoe (dydd Mawrth, 18 Ionawr).
Mynychodd timau achub o’r Rhyl a Bae Colwyn, gan gynnwys dwy injan dân, y digwyddiad a dod ar draws difrod sylweddol i’r fflat a chanfod corff dyn.
Y gred yw bod y dyn, sydd heb gael ei enwi eto, yn ei 80au.
Ymchwiliad
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn y cyfamser i ganfod beth achosodd y tân yn y fflat.
“Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn cael eu hestyn i’r teulu yn ystod yr amser anodd hwn,” meddai Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
“Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gyflawni ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.”