Mae cynllun ar droed i helpu adferiad tair tref yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn y pandemig Covid-19.

Daw hyn ar ôl i swyddogion yr awdurdod gyfathrebu â grwpiau cymunedol yn nhrefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman i geisio deall effaith y pandemig ar yr ardaloedd, a sut y gallan nhw fod o gymorth.

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet, byddai peidio â chynnig cefnogaeth yn achosi oedi yn adferiad pob un o’r trefi.

Wrth gymeradwyo’r cynllun, roedd aelodau’r Cabinet yn teimlo bod y cynllun a gafodd ei roi o’u blaenau nhw yn ymarferol a’n atyniadol.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies o Blaid Cymru, yr aelod Cabinet ar gyfer addysg a phlant, ei fod e a’i gyd-aelodau yn benderfynol o wneud eu gorau glas i helpu.

“Rydyn ni’n datgan yn glir ein bwriad i ddangos cefnogaeth,” meddai.

Cynlluniau

Bydd tasgluoedd penodol ym mhob un o’r tair tref nawr yn gweithredu’r cynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo.

Dros y blynyddoedd, mae’r sector manwerthu mewn dinasoedd a threfi ledled Prydain wedi dioddef colledion enbyd, yn enwedig ers Mawrth 2020.

Er gwaetha’r newid ym mhatrymau prynu pobol, roedd yr adroddiad gan Gyngor Sir Gâr yn nodi bod cyfle i wneud gwahaniaeth gweledol i ganol trefi yn y blynyddoedd i ddod.

Pan gafodd y cynlluniau eu llunio, roedd 17% o safleoedd manwerthu gwag yn nhref Caerfyrddin, ac 18% yn Llanelli a Rhydaman.

Rhydaman

Mae’r cynllun ar gyfer Rhydaman yn cynnwys amcanion fel cynyddu’r apêl canol y dref i deuluoedd a phobol ifanc, gwella cysylltedd rhwng gwahanol rannau o’r dref, cefnogi manwerthwyr annibynnol, ac annog twf y farchnad sydd ar agor ar ddyddiau Gwener.

Cafodd ei nodi yn yr adroddiad fod angen i ganol y dref fod yn fwy cyffrous yn y dydd a’r nos, a bod gan Rydaman “hanes hir” o gynnal digwyddiadau lleol sy’n bywiogi’r dref ac ennyn llawer o gefnogaeth yn lleol.

Caerfyrddin

Mae gan y cynllun ar gyfer tref Caerfyrddin amcanion gan gynnwys hybu’r economi gyda’r nos, creu darpariaeth twristiaeth drwy gydol y flwyddyn, a chryfhau ei hapêl fel canolbwynt siopa, hamdden a lletygarwch.

Roedd cefnogaeth hefyd i ehangu’r farchnad awyr agored a busnesau annibynnol.

Dywedodd yr adroddiad fod colli siop Debenhams wedi cael effaith sylweddol, a bod rhaid i graidd masnachol y dref gael ei amddiffyn.

Llanelli

Yn Llanelli, mae’r amcanion ar gyfer canol y dref yn cynnwys creu apêl oedd yn wahanol i beth mae parciau manwerthu ar gyrion y dref yn ei gynnig, yn ogystal ag arallgyfeirio’r arlwy yn ystod y dydd a’r nos.

Nododd yr adroddiad y byddai canol y dref yn well pe bai’n llai ond ag adeiladau sy’n llawn, yn hytrach na fel arall.

Roedden nhw hefyd yn dweud bod angen creu gwell cysylltiadau ar gyfer cerdded a seiclo rhwng canol y dref a’r atyniadau glan y môr cyfagos.