Mae cynghorydd wedi codi pryderon bod rhai pobl yn byw ar safleoedd carafannau gwyliau yn barhaol, ac felly’n osgoi talu’r dreth gyngor i ddefnyddio gwasanaethau

Mewn cyfarfod o bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy Cyngor Sir Powys ddydd Iau, 13 Ionawr, trafododd cynghorwyr newidiadau a gynigiwyd i Amodau Trwydded Safle Carafannau Gwyliau drafft newydd.

Dywedodd uwch swyddog trwyddedu Powys, Sue Jones, wrth y pwyllgor fod angen diweddaru’r amodau gan nad oedden nhw wedi newid ers y “1980au”.

“Mae’n waith rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers sbel wrth i mi ystyried bod angen moderneiddio ac uno,” meddai Ms Jones.

Ychwanegodd Ms Jones bod yr amodau diweddaraf wedi eu cwblhau ym mis Mawrth 2020 ond eu bod wedi cael eu gohirio am ddwy flynedd oherwydd y pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson: “Rwy’n gwybod ei fod yn ddadleuol, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â phreswylio mewn parciau gwyliau.

“Mae’n fater difrifol – mae colled net i’r awdurdod gan y dylai trigolion fod yn talu treth i’r cyngor.

“Rwy’n ymwybodol am sawl safle lle dyw hyn ddim yn digwydd, a heb fod yn digwydd ers blynyddoedd.

“Dylai fod rheoleiddio llym na allwch fyw ar barc gwyliau, a gorfodi hynny.”

Dywedodd Ms Jones: “Fy mhroblem i yw nad oes gen i unrhyw bwerau, mae’r cyfnod meddiannaeth a’r math o safle yn gyfyngiad cynllunio.

“Mae’r sefyllfa gyda Covid wedi amlygu’r boblogaeth gudd hon o bobl sy’n byw ar safleoedd gwyliau.”

Dywedodd Ms Jones fod cyfarfodydd wedi eu cynnal gyda staff cynllunio’r cyngor a’r rhai sy’n delio gyda’r dreth gyngor i drafod pa gamau i’w cymryd.

Cyfeiriwyd achosion o’r angen i bobl dalu’r dreth gyngor ar gyfer ymchwilio iddynt.

Dywedodd Ms Jones wrth gynghorwyr bod “amodau cadarn” i ddelio â’r broblem hon ar safleoedd mwy diweddar, a bod modd delio ag achosion o fethu â thalu.

Dywedodd Ms Jones: “Yr hyn sydd ei angen yw deddfwriaeth newydd.

“Roedd ’na fil yn cael ei gynnig oedd yn rhoi’r cyfrifoldeb ar berchnogion y safle gwyliau.

“Mae angen iddyn nhw sicrhau bod pob perchennog carafán yn gallu profi bod ganddyn nhw gartref a chadw’r cofnodion hynny’n rheolaidd.

“Yn anffodus, ni aeth y bil hwnnw drwodd erioed.

“Nid Powys yn unig [sy’n dioddef], ond pobman, mae’n broblem benodol yn y Gogledd.”

Dywedodd cyfreithiwr y pwyllgor cynllunio, Colin Edwards: “Dylai unrhyw gwynion gael eu cofnodi ar y wefan orfodi.”

Cefnogwyd diweddaru’r amodau yn unfrydol gan gynghorwyr, a bydd hynny nawr yn destun ymgynghoriad wyth wythnos.

Ym Mhowys, mae ychydig dros 200 o safleoedd gwyliau trwyddedig o’r fath – sy’n amrywio o ran maint. Bydd y cyngor nawr yn cysylltu â nhw i gael eu barn.