Fydd Cyngor Sir Ceredigion ddim yn ei gwneud yn ofynnol i staff gael eu brechu rhag Covid-19 oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny’n orfodol.

Cododd y cwestiwn wrth i aelodau’r adran adnoddau corfforaethol drafod adroddiad absenoldeb oherwydd salwch mewn cyfarfod ddoe (dydd Iau, Ionawr 13).

Dywedodd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans fod rhai cwmnïau yn y sector preifat wedi gwthio am frechu staff, a gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn gwneud yr un peth, gan gael gwybod y byddan nhw’n aros am “gyfarwyddeb gan Lywodraeth Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, er bod y sector preifat wedi cymryd y camau hyn, ei fod yn credu bod natur amrywiol gwaith y Cyngor yn golygu na allai ei weld yn digwydd yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd Geraint Edwards, y swyddog corfforaethol ar gyfer pobol a threfniadaeth, wrth gynghorwyr fod pryder mewn cartrefi gofal “lle mae disgwyliad ar staff” ond fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gohirio gweithredu mesurau.

Salwch

Clywodd y pwyllgor y bu gostyngiad mewn salwch hirdymor ymhlith staff yr awdurdod ers 2017-18 pan oedd ar y gyfradd uchaf yng Nghymru, ac roedd ffocws nawr ar leihau absenoldebau tymor byr.

Dywedodd Edwards fod 180 o staff i ffwrdd yn sâl ar ddydd Gwener, Ionawr 7 – 5% o’r holl staff – ac o’r rheiny, roedd 72 i ffwrdd oherwydd salwch yn ymwneud â Covid-19, sef 2% o’r gweithlu.

Roedd y pwyllgor yn cydnabod y newid mewn bywyd gwaith oherwydd y pandemig, gyda llawer yn “llwyddo i wneud ychydig o waith”, hyd yn oed os oedden nhw’n teimlo’n sâl mewn rhai achosion gan eu bod yn gweithio gartref.

Hefyd, roedd llawer o staff wedi gweld cynnydd yn y llwyth gwaith yn ystod y cyfnod yma.

‘Rôl amhrisiadwy’

Penododd y Cyngor swyddog iechyd a lles gweithwyr ym mis Tachwedd 2019, ac “mae’r rôl hon wedi bod yn amhrisiadwy wrth gefnogi gweithwyr ar bob lefel dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond yn enwedig yn ystod y pandemig,” yn ôl adroddiad.

Mae cymorth yn cael ei ddarparu i helpu i gadw staff mewn gwaith gan ddefnyddio trafodaethau llesiant, sesiynau gwydnwch, e-byst a gweminarau rheoli straen a llesiant, yn ogystal â chymorth pwrpasol i staff rheng flaen.