Bydd sesiynau fforwm yn cael ei lansio yng Ngwynedd a Môn i roi cyfle i ferched ifanc drafod materion sydd o bwys iddyn nhw.
Menter Môn a Hunaniaith sy’n gyfrifol am gydlynu’r sesiynau arbennig, a fydd yn digwydd bob pythefnos dros gyfnod o 12 wythnos, gyda’r sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal yn rhithiol ar ddydd Mercher, Chwefror 9.
Bwriad y sesiynau yw cynnig man diogel i ferched ifainc rhwng 13 ac 18 oed gael rhannu eu teimladau am bynciau amserol fel iechyd meddwl, hunanddelwedd, diogelwch personol a thlodi mislif.
Yn rhan o hynny, mae’r trefnwyr hefyd am gynnal gweithdai creadigol i’r rheiny sy’n cymryd rhan.
‘Creu cylch o gariad’
Arweinydd y sesiynau yw Casi Cartwright, sy’n rhedeg cyfrif Codi Cymru ar Instagram.
“Mi fyddwn ni’n creu cylch o gariad, cylch saff i chi agor i fyny a chael bod yn pwy bynnag ydach chi eisiau bod,” meddai.
“Dwi’n estyn fy llaw allan i chi a dwi’n gofyn i chi ddod i ymuno efo fi i gael sgwrs am fywyd, i gael sgwrs am eich profiadau chi, er mwyn i ni gyd gael dysgu gan ein gilydd.
“Pan mae merched yn gryf mae pethau mawr yn digwydd.”
Mae Jade Owen, Swyddog Prosiect Menter Môn yn croesawu’r sesiynau.
“Mae gallu cynnig sesiynau diogel fel hyn i ferched ble mae pawb yna am yr un rheswm ac yn barod i wrando ar ei gilydd yn braf iawn,” meddai.
“Gyda chymaint o bryderon yn wynebu merched ifanc a llawer o’r pryderon yma wedi bod yn y cyfryngau yn ddiweddar, mae rhai yn ei chael hi’n anodd i drafod yr hyn sydd yn eu poeni nhw, felly y gobaith ydi y bydd y fforwm yma yn cynnig y lle hwnnw i’r merched yma.”