Mae’r geiriadur daearegol cyntaf wedi ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg.

Dr Dyfed Elis-Gruffydd yw awdur Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear, sy’n cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.

Astudiaeth o greigiau a chramen y ddaear yw Daeareg (Geology).

Prif amcan y geiriadur newydd yw cyflwyno a diffinio’r termau sy’n ymwneud â Daeareg yn benodol a’r gwyddorau daear yn gyffredinol.

Mae’r geiriadur yn cynnwys dau ran – geiriadur sy’n diffinio dros 1,800 o dermau Cymraeg; ac yn ail, mynegai Saesneg/Cymraeg sydd yn cynnwys dros 2,000 o dermau Saesneg, ynghyd â’r termau Cymraeg cyfatebol.

“Neb sy’n gwybod mwy am wyneb Cymru”

Dywedodd D Geraint Lewis, awdur nifer o eiriaduron Cymraeg, a chyfaill i’r awdur:

“Go brin bod yna neb sy’n gwybod mwy am wyneb Cymru a’r hyn sydd dan yr wyneb hwnnw na’r teithiwr a’r daearegwr Dr Dyfed Elis-Gruffydd.

“Yr ydym yn gyfarwydd â hanesion am ei hoff Breselau, teithiau yn cofnodi golygfeydd hynotaf Cymru a’i ddadansoddiadau gwyddonol ofalus o’n daeareg.

“Yr wyf i serch hynny, yn gyfarwydd â Dyfed Elis-Gruffydd arall, y golygydd craff a fu’n gweithio am ddegawdau ar fy ngeiriaduron ac a achubodd fy ngham ar lawer achlysur.

“Pleser o’r mwyaf felly yw gweld y ddau Ddyfed yn dod ynghyd yn y Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear – geiriadur termau unigryw sy’n cyfuno diffinio awdurdodol â threfn eiriadurol drylwyr, cyfrol yn wir, sy’n batrwm o’i bath.”