Mae un ardal o Wynedd wedi bod yn y penawdau am y rhesymau anghywir dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn cynnydd mewn achosion o Covid-19.
Roedd Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol (MSOA) Bethel a Llanrug wedi gweld y gyfradd Covid-19 uchaf yng Nghymru dros y Nadolig, gyda 2,523 achos positif o’r firws i bob 100,000 o’r boblogaeth yn yr wythnos hyd at Ragfyr 27.
Bellach, mae’r gyfradd yn yr ardal wedi cymedroli rhywfaint, er ei bod yn parhau i fod yn uchel fel pob man arall yng Nghymru.
Rhwng Rhagfyr 31 a Ionawr 6, cafodd cyfradd o 1,166.7 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth ei chofnodi yno, tra bod dwsinau o ardaloedd ledled Cymru â chyfraddau dros 2,000 erbyn hyn, wrth i’r amrywiolyn Omicron ledaenu.
‘Dydyn ni ddim allan o’r goedwig’
Dywed y Cynghorydd Beca Brown, sy’n cynrychioli Llanrug, nad yw hi’n gwybod pam fod yr achosion wedi cynyddu yn ddiweddar.
“Dw i ddim am drio damcaniaethu am y rhesymau pam,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n bosib oherwydd bod mwy o bobol yn yr ardal yma wedi mynd i gael eu profion. Mae yna lefydd eraill rŵan sydd efo cynnydd mawr yn eu hachosion nhw.
“Dw i’n meddwl y bydd nifer o ardaloedd eraill am gael eu cyfnod nhw o fod yn uchel yn y tabl, a does neb eisiau bod efo nifer uchel o achosion. Alla i ddim meddwl pam y bysa Llanrug a Bethel yn wahanol i unrhyw ardal arall a bod yn onest.
“Dydyn ni ddim allan o’r goedwig fel maen nhw’n ei ddweud. Yn ôl be dw i’n ei ddallt, byddwn ni’n cyrraedd uchafbwynt ar draws y gogledd mewn rhyw bythefnos, wedyn pwy â ŵyr beth fydd yr achosion [yn ardaloedd Bethel a Llanrug] neu unrhyw le arall erbyn hynny.
“Dw i’n gwybod bod pobol Llanrug wedi bod yn ofalus iawn ac wedi cadw at y rheolau ac ati, ond rydyn ni mewn cyfnod rŵan lle mae angen bod yn arbennig o ofalus er mwyn gwarchod yr ysbytai lleol.
“Yr unig beth fedrwn i’w ddweud ydi diolch i bobol am gadw’n saff ac am ddilyn y rheolau, ac annog pobol i gael y brechlyn.
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi cyrraedd y pig eto, a dw i ddim yn siarad am Lanrug yn benodol, ond ar draws y gogledd i gyd.”
Dim ond ‘llond llaw’ o achosion
Dywed y Cynghorydd Sion Jones, sy’n cynrychioli Bethel, mai dim ond “llond llaw” o achosion oedd wedi eu cofnodi, ac nad oedd y cyfraddau diweddar o reidrwydd yn destun pryder.
“Yn amlwg mae Bethel a Llanrug wedi bod yn uchel iawn yn ystod y cyfnod data diwethaf,” meddai wrth golwg360.
“Y rheswm am hyn ydi bod y boblogaeth yma mor isel, felly os oes tri neu bedwar o deuluoedd efo Covid, mae hynny’n gwneud i’r cyfraddau edrych yn uchel wedyn.
“Dydy’r ffigyrau ddim yn fy mhoeni i gormod oherwydd bod dim lot o bobol wedi cael Covid. Dw i’n gwybod pwy sydd wedi cael y firws hefyd ac maen nhw’n iach.
“Dw i’n gwybod bod ’na un teulu o chwech wedi cael y firws, ac mae llawer o unedau yn Bethel sydd efo teuluoedd mawr wedi cael o.
“Ond gan fod y boblogaeth mor isel, mae’r ffigyrau’n edrych yn fwy o beth nag ydyn nhw wedyn. Llond llaw o bobol wyt ti angen i gael o ac mae’r ffigyrau yn cynyddu.”
Dywed nad oedd y cyfraddau yn bryder yn lleol, ond y bydden nhw wedi bod pe bai rhywun hŷn neu sydd â phroblemau iechyd beth bynnag wedi dal y firws.
Pryderon lleol
Dywed y Cynghorydd Beca Brown fod pryder yn gyffredinol pan fo achosion yn cynyddu, yn enwedig wrth i bobol orfod ynysu neu feddwl am ddechrau cymdeithasu unwaith eto.
“Mae pobol wastad yn bryderus,” meddai.
“Mae gennyn ni weithwyr iechyd yn byw yma sydd yn pryderu. Roedd yna bobol oedd yn ynysu a’n ei chael hi’n anodd cyrraedd y siopau, fe ddaethon nhw ar y cynllun bwyd lleol dros dro.
“Hwyrach efo pobol hŷn yn yr ardal, mae yna bryder ynglŷn â diffyg hyder efo mynd allan ac ati, rŵan bod pawb wedi cael eu brechiadau a’u hwblyn.
“Fel oedd pobol yn dechrau magu hyder y llynedd, mae’r amrywiolyn newydd a’r cynnydd eto mewn achosion hwyrach wedi dod ar draws yr egin hyder yna mewn ffordd.”