Mae’n debyg y gallai cynllun gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer canolbarth Cymru gael ei lofnodi erbyn diwedd yr wythnos.
Dywed Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion, y bydd hi’n “hynod o falch” pan fydd y cytundeb Tyfu Canolbarth Cymru yn cael ei lofnodi, gan ddweud wrth weddill y Cabinet y bydd wedi ei gwblhau “erbyn dydd Iau”.
Yn ystod y cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 11), ychwanegodd ei bod hi wedi bod yn broses hir ac “anodd” ar adegau, ond ei bod hi’n gobeithio y byddan nhw’n gallu cyflawni pwrpas y cytundeb yn y man.
Bargen Dwf Canolbarth Cymru
Bydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn cydweithio ar gyflawni Bargen Dwf Canolbarth Cymru, ac mae’r cytundeb yn cryfhau’r berthynas rhwng y ddau awdurdod er mwyn cyflawni’r fargen honno.
Cafodd achos busnes cychwynnol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru y llynedd yn amlinellu fframwaith ar gyfer y fargen dwf, sydd gobeithio am ddenu buddsoddiad o rhwng £280m a £400m dros y ddeng i bymtheg mlynedd nesaf.
Yn rhan o hynny, bydd swyddi yn cael eu creu a bydd economi’r rhanbarth yn gweld nifer o fuddion.
“I sicrhau bod yna lywodraethu da a chadarn yng nghyfnod cyflwyno Bargen Dwf Canolbarth Cymru, mae’n hanfodol bod y cytundebau presennol rhwng cynghorau Powys a Cheredigion yn cael eu hadolygu a’u datblygu,” meddai adroddiad i’r Cabinet.
“Mae hyn yn galw am drydedd fersiwn o’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod wrth ddarparu’r fargen dwf.”
Cafodd y cytundeb ei dderbyn yn unfrydol gan y Cabinet, gyda’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn dweud bod hynny “yn gam enfawr tuag at gyflawni’r Fargen Dwf”.