Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru gam yn nes at gael ei gwireddu ar ôl i gynllun strategaeth gael ei gymeradwyo.

Byddai’r Fargen yn gweld £110m yn cael ei ddarparu gan lywodraethau Cymru a San Steffan i gefnogi economi’r rhanbarth, a’r gobaith ehangach yw y bydd yn denu buddsoddiadau pellach gan y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae potensial i hyd at £400m gael ei fuddsoddi dros y deg i bymtheg mlynedd nesaf, gyda’r posibilrwydd y bydd tua 1,100 o swyddi yn cael eu creu.

Bydd y Portffolio Achos Busnes llawn nawr yn cael ei gyflwyno i’r ddwy lywodraeth i’w ystyried a’i adolygu.

Pe bai’r portffolio hwn yn cael ei gymeradwyo ymhellach, bydd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n gyfrifol am y cynllun, yn gallu llunio rhaglen lawn a chanolbwyntio ar y prosiectau penodol.

Ymateb y Cynghorau

Mae arweinwyr cynghorau sir Ceredigion a Phowys yn falch o weld y Fargen yn cyrraedd “carreg filltir” arall.

“Mae cymeradwyo Achos Busnes y Portffolio yn gam hollbwysig yn natblygiad y Fargen Dwf, ac mae’n nodi diwedd y bennod gyntaf cyn y gallwn gyflwyno’r prosiectau a’r rhaglenni datblygu o ddifrif,” meddai Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion.

“Nawr, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddwy lywodraeth a gweithredu’r argymhellion i ddechrau paratoi’r ffordd ar gyfer darparu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, creu swyddi a rhoi hwb sylweddol i economi ein rhanbarth,” meddai Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Powys.

‘Rhan bwysig’

Roedd llywodraethau Cymru a Phrydain eisoes wedi ymrwymo i dalu £55m yr un yn rhan o’r Fargen, a hynny ar ôl iddyn nhw lofnodi Cytundeb Penawdau Telerau gyda dau awdurdod lleol y rhanbarth.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi’r Fargen Dwf yng Nghanolbarth Cymru, ac edrychwn ymlaen at dderbyn y cynnig ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ei ystyried,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Mae gan y Fargen Dwf ran bwysig i’w chwarae yn yr adferiad yn dilyn Covid ac wrth helpu i hyrwyddo economi wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus yng nghanolbarth Cymru.”