Mae gwasanaeth sy’n amddiffyn merched bregus yn bwriadu agor dwy ganolfan gyswllt newydd ym Mangor a Wrecsam.
Bu’n rhaid i Ganolfan Merched Gogledd Cymru yn y Rhyl gau yn ystod y cyfnod clo, gan atal merched rhag gallu defnyddio’r gwasanaeth galw heibio.
Mae’r Ganolfan yn y Rhyl bellach wedi ailagor, a nod y dair canolfan yw ceisio helpu merched sydd mewn perygl o droseddu.
Dan raglen Braenaru, a gafodd ei chomisiynu a’i hariannu gan Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, mae’r gwasanaeth yn darparu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i ferched bregus, sy’n aml yn dioddef o broblemau fel camddefnyddio alcohol a sylweddau, problemau iechyd meddwl a pherthnasoedd teuluol anodd.
“Cynnydd” mewn galw
Mae Gemma Fox, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Merched Gogledd Cymru, wedi croesawu’r canolfannau newydd gan ddweud: “Dyma lefydd sy’n fannau croesawgar, cynnes a chyfeillgar lle gall merched sydd wedi bod trwy drawma gael tawelwch meddwl a chyfle i gael sgyrsiau cyfrinachol mewn amgylchedd diogel.
“Rydym yn gwybod y gall y canolfannau hyn annog merched i ailadeiladu eu bywydau a heb gymorth y Comisiynydd ni fyddem wedi gallu bwrw ymlaen â’r cynlluniau
“Bydd dychwelyd i weithio wyneb yn wyneb yn annog merched i geisio cefnogaeth eto oherwydd yn ystod y pandemig nid oedd modd cael y cyswllt personol yna.
“Rydyn ni’n dechrau gweld cynnydd yn y galw ac rydyn ni’n disgwyl i hyn dyfu wrth i ganlyniadau economaidd y pandemig ddod i’r amlwg ac yn dilyn y gostyngiad mewn budd-daliadau.”
Mae merched yn cyrraedd y Ganolfan mewn sawl ffordd, meddai Yvonne Wild, y rheolwr prosiect, gan gynnwys merched sydd mewn perygl o droseddu.
“Yn aml, nhw yw’r rhai sy’n ddigartref neu sydd â phroblemau alcohol neu gyffuriau, dioddefwyr cam-drin domestig a’r rhai sydd mewn anhawster ariannol, yn enwedig gyda’r gostyngiad mewn Credyd Cynhwysol,” meddai Yvonne Wild.
“Mae yna bobol hefyd wedi colli swyddi, yn enwedig mewn ardal fel y Rhyl sy’n un o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond hefyd ym Mangor ac yn Wrecsam lle rydyn ni’n cael y nifer fwyaf o atgyfeiriadau.
“Bu cynnydd yn y niferoedd sy’n ceisio cefnogaeth gyda cham-drin domestig a phroblemau tai, ac nid yw wedi helpu nad yw merched wedi gallu galw i mewn yn ystod y cyfnod clo.
“Fodd bynnag, roeddem yn falch iawn o ailgychwyn ein gwasanaeth galw heibio dydd Mercher yn y Rhyl ym mis Medi lle gall merched alw heibio heb apwyntiad.”
“Newid bywydau”
Yn ogystal â helpu’r merched i fyw bywydau mwy diogel ac iach, mae’r canolfannau yn darparu cymorth er mwyn lleihau nifer y bobol sydd yn y system cyfiawnder troseddol.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Wayne Jones, eu bod nhw’n “awyddus iawn” i gefnogi gwaith y Ganolfan.
“Rydyn ni’n gwybod yr effaith y gall dedfryd ei chael ar deulu a dyna pam rydyn ni am barhau â’n cefnogaeth ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Ganolfan yn agor canolfannau newydd yn Wrecsam a Bangor i wneud ei gwasanaethau’n fwy hygyrch i ferched ar draws y Gogledd,” meddai Wayne Jones.
“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun pa mor ddefnyddiol y gall y gwasanaethau hyn fod i ferched sydd mewn perygl, gan gynnwys y rhai sy’n dod i’r Ganolfan ac sydd eisiau newid eu bywydau.
“Mae gan y Ganolfan record ragorol o gefnogi merched sydd mewn sefyllfaoedd anodd a’u dargyfeirio i ffwrdd o’r carchar.
“Mae Covid wedi dod â heriau ychwanegol gyda’r gostyngiad mewn cyfleoedd i gyfarfod wyneb yn wyneb ond maen nhw wedi parhau i wneud gwaith rhagorol ac mae’n wych eu bod nhw bellach yn gallu datblygu gwasanaethau ledled y Gogledd.”