Mae swyddogion cynllunio wedi cefnogi cynllun i agor warws fwyd newydd ym Mangor, gan greu rhwng 20 a 25 o swyddi yn rhan o ddatblygiad gwerth £1m.

Byddai siop Food Warehouse, sy’n gangen o gwmni Cymreig Iceland, yn cael ei hagor yn yr uned Carpetright sydd ym Mharc Manwerthu Menai ar hyn o bryd.

Yn ôl y cwmni, mae Food Warehouse yn wahanol i’w siopau canol tref traddodiadol gan eu bod nhw’n fwy o faint ac wedi eu lleoli ar gyrion trefi mewn parciau manwerthu.

Gydag unedau eisoes wedi eu hagor yn Wrecsam, Yr Wyddgrug a’r Fflint, y safle ar Ffordd Caernarfon fyddai eu 14eg siop yng Nghymru.

Datblygiad

Cefnogodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd y cynlluniau i agor y siop, yn ogystal ag ymestyn blaen yr adeilad.

Dywed yn y dogfennau cynllunio: “Y cynigion yw ymestyn maint y tu mewn i’r adeilad i wneud lle ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau manwerthu, yn yr achos hwn manwerthu bwyd, sydd angen 12,000 troedfedd sgwâr o le i weithredu.

“O ganlyniad, ein datrysiad yw ymestyn blaen yr adeilad, sydd am leihau effaith ar yr ardal gefn a rhoi cyfle i wella wyneb yr adeilad.”

Ychwanegon nhw: “Mae Iceland a Food Warehouse yn gwmnïau Cymreig. Maen nhw wedi eu lleoli ar Lannau Dyfrdwy yn Sir Y Fflint, ac mae 13 siop Food Warehouse yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Yng ngogledd Cymru, mae’r siopau agosaf i Fangor wedi eu lleoli yn Wrecsam, Yr Wyddgrug a’r Fflint. Mae gan siopau Food Warehouse yng Nghymru arwyddion dwyieithog hefyd.

“Byddai buddsoddiad y Food Warehouse wrth agor y siop ym Mharc Manwerthu Menai yn uwch na £1m. Dydy hynny ddim yn cynnwys costau adeiladu.

“Byddai rhwng 20 a 25 o swyddi’n cael eu creu mewn amryw o ddyletswyddau, ac mae Food Warehouse yn disgwyl i fwyafrif y swyddi, os nad nhw i gyd, i gael eu llenwi gan bobol leol.

“Yn ogystal, byddai swyddi’n cael eu creu yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad.”