Mae cyn-Faer Caernarfon, y Cynghorydd Roy Owen, wedi cael ei wahardd fel cynghorydd sir a thref.

Daw’r penderfyniad yn dilyn tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru a ganfu’r Cynghorydd Owen yn euog o dorri’r cod ymddygiad deirgwaith.

O ganlyniad bydd Mr Owen, sy’n cynrychioli ward Seiont ar Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Caernarfon, yn segur am weddill ei gyfnod gan fod etholiadau lleol mis Mai yn dod cyn diwedd ei waharddiad o naw mis.

Roedd y tribiwnlys wedi ei gael yn euog o’r achosion canlynol, a hynny’n unfrydol:

  • Paragraff 6(1)(d) o’r Cod Ymddygiad, drwy wneud cwynion blinderus, maleisus neu wamal yn erbyn Aelod arall.
  • Paragraff 6(2) o’r Cod Ymddygiad, drwy fethu â chydymffurfio â cheisiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mewn cysylltiad ag ymchwiliad a gynhaliwyd yn unol â’i bwerau statudol.
  • Paragraff 7(a) o’r Cod drwy ddefnyddio neu geisio defnyddio ei safle’n amhriodol i greu anfantais i berson arall.

Er nad yw’r adroddiad llawn wedi ei gyhoeddi eto, fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y byddai’r Cynghorydd Owen yn parhau wedi’i wahardd tan fis Mai.

Mae’r Cynghorydd Owen, a ffurfiodd ac a arweiniodd grŵp Annibynwyr Unedig Gwynedd ar Gyngor Gwynedd, hefyd wedi bod yn Faer Caernarfon am ddau gyfnod.

Yn gynghorydd sir ers 2004, roedd yn y penawdau cenedlaethol yn 2018 ar ôl cael cymaint o lond bol o dyllau yn ffyrdd ei ward iddo fynd ati i’w llenwi ei hun, gyda’i brofiad fel technegydd priffyrdd.

Mae hysbysiad penderfyniad y panel yn datgan: “Daeth y Tribiwnlys Achos i’r casgliad drwy benderfyniad unfrydol y dylid atal yr ymatebydd rhag gweithredu fel aelod o Gyngor Tref Frenhinol Caernarfon a Chyngor Gwynedd am gyfnod o naw mis neu, os yw’n fyrrach, gweddill ei gyfnod yn y swydd, o ddyddiad yr hysbysiad hwn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, “Gallwn gadarnhau bod y Cynghorydd Roy Owen (Seiont – Caernarfon) wedi ei wahardd rhag bod yn aelod o Gyngor Tref Gwynedd a Chaernarfon yn unol â phenderfyniad Panel Dyfarnu Cymru.

“Mae wedi’i wahardd am weddill tymor presennol y cyngor (Mai 9).”

Bydd Seiont, ward aml-aelod sy’n cynnwys y castell a rhan ddeheuol canol tref Caernarfon, yn parhau i gael ei chynrychioli ar Gyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Cai Larsen o Blaid Cymru.

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Owen, a allai apelio yn erbyn y penderfyniad drwy’r Uchel Lys, wneud sylw.