Mae Cyngor Ynys Môn wedi penodi eu Prif Weithredwr newydd yn ystod eu cyfarfod llawn heddiw (dydd Mawrth, 21 Rhagfyr).
Fe bleidleisiodd cynghorwyr yn unfrydol o blaid dyrchafu’r Dirprwy Brif Weithredwr presennol, Dylan Williams, i swydd uchaf yr awdurdod.
Bydd yn ymgymryd â’r rôl ym mis Mawrth flwyddyn nesaf, pan fydd Annwen Morgan yn ymddeol.
‘Edrych ymlaen’
Yn wreiddiol o Ynys Môn, fe ymunodd Dylan Williams â’r cyngor 25 mlynedd yn ôl yn 1996, a daeth yn Ddirprwy Brif Weithredwr gyda’r awdurdod ym mis Hydref 2019.
“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi ac yn edrych ymlaen at gychwyn fy rôl newydd ym mis Mawrth, er yr heriau a’r ansicrwydd parhaus,” meddai.
“Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i weithio ochr yn ochr ag Annwen, cydweithwyr a phartneriaid er mwyn cynnal gwasanaethau ac amddiffyn iechyd a lles trigolion yr Ynys.”
‘Dygn ac effeithiol’
“Hoffwn longyfarch Dylan ar ei apwyntiad,” ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi.
“Mae o wedi gweithio’n agos gydag Annwen yn ystod cyfnod y pandemig, ac maent wedi profi’n bartneriaeth sydd wedi gweithio’n ddygn ac effeithiol.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Annwen am ei gwasanaeth yn ystod ei hamser fel Prif Weithredwr a dymuno’n dda iddi wrth iddi ymddeol yn y Flwyddyn Newydd.”