Mae dyn wedi cael ei garcharu am ddeng mlynedd ar ôl lladd dyn arall tu allan i Westy’r Waverley ym Mangor y llynedd.

Fe wnaeth Brandon Sillence, 25 o Fangor, bledio’n euog i ddynladdiad ar ôl rhoi dwrn i Dean Skillin, 20, ym mis Medi 2020.

Ddoe (16 Rhagfyr), fe wnaeth rheithgor ganfod Brandon Sillence, sy’n ymarfer bocsio, yn ddieuog o lofruddiaeth.

Yn ôl y barnwr, roedd Brandon Sillence yn “ceisio ymddangos fel dyn pwysig” pan ddyrnodd “ddyn diniwed”.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod yr heddlu wedi eu galw i Westy’r Waverley ym Mangor y noson honno am resymau gwahanol, a bod Brandon Sillence wedi ymddwyn yn heriol tuag atyn nhw.

Tra’r oedd yr heddlu yno, fe wnaeth Brandon Sillence ymosod ar Dean Skillin a dyn arall, Taylor Lock.

“Bwriadu gwneud niwed”

Dywedodd y barnwr yn yr achos, Geraint Walters, fod y dwrn a wnaeth ladd Dean Skillin yn “un rymus gan ddyn oedd yn hen law ar ddyrnu”.

Fe wnaeth Brandon Sillence sefyll a gwylio wrth i bobol eraill drio helpu Dean Skillin, a dywedodd y barnwr fod hynny’n dangos ei fod yn bwriadu achosi niwed i’w ddioddefwr.

“Mae’r diffyg syndod hwnnw’n dangos eich bod chi’n bwriadu gwneud niwed sylweddol i’r dioddefwr,” meddai Geraint Walters.

“Roedd e, ar ddiwedd y dydd, yn ddyn ifanc â chymeriad eithriadol o dda. Ni wnaeth achosi trafferth i’w deulu na’r heddlu erioed – ac ni wnaeth achosi trafferth i chi, chwaith.”

Fe wnaeth y barnwr wrthod honiadau bod Brandon Sillence yn credu fod ffrind iddo mewn perygl o gael cweir, a dywedodd nad oedd ei fagwraeth “ofnadwy” yn esgus.

“Dyn diniwed”

Wrth siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Jon Russell: “Tra bod Sillence wedi’i ganfod yn ddieuog o lofruddiaeth, cymerodd fywyd dyn diniwed, ac er na fydd yr un ddedfryd fyth yn dod â Dean yn ôl, dw i’n gobeithio y bydd digwyddiadau heddiw’n cynnig ychydig bach o gyfiawnder i’w deulu.

“Bydd pobol sy’n dod â thristwch a phoen i bobol ddiniwed drwy eu gweithredoedd difeddwl yn parhau i gael eu rhoi o flaen y llysoedd.

“Rydyn ni’n benderfynol o wneud gogledd Cymru’r lle saffaf yn y Deyrnas Unedig.”