Mae cynllun gwerth £4m wedi cael ei gyflwyno i ymestyn rheilffordd treftadaeth ger y Bala.

Wedi ei adeiladu ar ran o’r hen reilffordd rhwng Rhiwabon a’r Bermo, mae’r trên bach ar Reilffordd Llyn Tegid yn teithio pedair milltir o amgylch y llyn o orsaf Pen-y-bont i bentref Llanuwchllyn.

Byddai’r cynlluniau newydd, sydd wedi eu cyflwyno i Barc Cenedlaethol Eryri, yn gweld y daith yn ymestyn tri chwarter milltir, gyda gorsaf newydd sbon yn cael ei hadeiladu ger y stryd fawr yng nghanol tref y Bala.

Yn ôl perchnogion y rheilffordd, maen nhw’n gobeithio y byddai hynny yn dyblu niferoedd teithwyr, gan eu bod nhw’n gallu osgoi cerdded chwarter awr o ganol y dref i orsaf Pen-y-bont.

Maen nhw’n credu bod y trefniadau presennol yn “wael iawn” ac wedi “atal yr atyniad rhag chwarae fwy o ran yn yr economi leol.”

Nifer ymwelwyr yn dyblu

“Ar hyn o bryd, mae’r rheilffordd yn cludo 29,000 o deithwyr y flwyddyn ar wasanaeth trên sy’n rhedeg ar 173 diwrnod y flwyddyn,” meddai perchnogion y rheilffordd yn eu cais cynllunio.

“Rydyn ni’n rhagweld y byddai’r nifer hwn yn cynyddu i 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae’r asesiad effaith economaidd hefyd yn rhagweld y byddai gwerth y datblygiad hwn yn lleol yn bron i £1.4m.

“Byddai 20 o swyddi cyfwerth â llawn amser yn cael eu darparu am flwyddyn, ynghyd â 18 o swyddi eraill yn ystod y cyfnod adeiladu.”

Mae’r perchnogion hefyd yn rhagweld y byddai pedair swydd barhaol newydd ar gael yn dilyn yr uwchraddio.

Cynlluniau gorsaf Y Bala

Gorsaf newydd

Byddai’r orsaf newydd yn cynnwys swyddfa docynnau a chaffi, yn ogystal â chyfleusterau cynnal cyfarfodydd ac ystafell ddigwyddiadau.

Pe bai’r orsaf yng nghanol y dref, byddai ymwelwyr yn gallu defnyddio llefydd parcio sydd eisoes yn y dref neu byddai llond llaw o lefydd newydd yn cael eu darparu, meddai’r perchnogion.

I groesi’r afon Dyfrdwy i mewn i’r dref, byddai’r trên yn rhannu’r bont ffordd bresennol gyda cheir, yn debyg i dram, sy’n golygu na fyddai pont newydd yn gorfod cael ei hadeiladu.

“Heb os, byddai dod â’r rheilffordd i’r dref, a rhedeg gwasanaethau sengl oddi yno ar rai dyddiau, yn cynyddu’r potensial i gyfuno ymweliadau â’r rheilffordd ag ymweld â’r Bala,” meddai’r perchnogion yn eu dogfennau cynllunio.

Mae’n debyg nad yw’r cyllid ar gael eto i ariannu’r cynllun, ond bod ymgyrch godi arian bellach wedi dechrau, gyda gwaith yn cael ei wneud ar ddenu cyllid drwy grantiau.

Mae disgwyl i Adran Gynllunio Parc Cenedlaethol Eryri ystyried y cais dros y misoedd nesaf.