Mae gwirfoddolwr mewn banc bwyd yn Llandysul yn dweud bod y diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth i gynlluniau o’r fath yn “embaras.”

Daw hyn yn dilyn cyfnod o straen aruthrol ar fanciau bwyd yn ystod y pandemig, wrth i fwy a mwy o bobol ddibynnu arnyn nhw, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi penderfynu rhoi rhodd o £250 i bob banc bwyd yn y sir er mwyn eu cefnogi nhw dros y cyfnod hwn.

Bydd banciau bwyd yn nhrefi Aberystwyth, Aberteifi, Aberaeron, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan i gyd yn elwa o’r arian hyn dros y Nadolig eleni.

Yn fwy na dim, mae cynlluniau banciau bwyd yn ddibynnol ar roddion gan fudiadau ac unigolion, wrth geisio darparu pecynnau bwyd i bobol sydd mewn angen.

Galw “aruchel”

Er bod y cyfnod clo wedi dod i ben, mae effeithiau’r pandemig yn parhau i achosi galw digynsail ar fanciau bwyd.

Dywed Sian ap Gwynfor o Fanc Bwyd Llandysul fod y galw wedi codi yn “aruchel” yn ddiweddar.

“Yn rhyfedd iawn, cawson ni gyfnod cymharol dawel dros yr Haf, a dydyn ni ddim yn gwybod pam yn union,” meddai wrth golwg360.

“Un rheswm mae’n siŵr yw bod yr arian o fudd-daliadau neu gredyd cynhwysol wedi bod yn mynd i mewn i gyfrifon bryd hynny.

“Ond yn y mis diwethaf, mae’r galw wedi codi yn aruchel, ac rwy’n gwybod bod rhai o’r unigolion hynny wedi bod yn trio sortio’r arian sydd ddim yn dod drwyddo i’w cyfrifon nhw.

“Os nad yw’r arian hynny’n dod drwyddo, maen nhw’n byw o law i geg fel petai, a does dim arian gyda nhw i wario am yr wythnos hynny.

“Felly maen nhw’n dod atom ni tan fod yr arian yn cyrraedd eu cyfrif nhw.”

Capel Seion yw cartref Banc Bwyd Llandysul

‘Ble bydden ni heb elusennau?’

Mae’r Banc Bwyd yn Llandysul yn nodi bod dros 80 o bobol wedi cael cymorth ganddyn nhw mewn un mis, gan dderbyn cudynnau bwyd i bara am wythnos.

Yn ôl Sian ap Gwynfor, maen nhw’n ddibynnol ar roddion gan fudiadau, fel eglwysi a chapeli, yn ogystal â phobol gyffredin, yn enwedig ar adeg y Nadolig.

“Y sefyllfa gorau posib yw y byddai’r Llywodraeth yn gallu helpu pobol ar eu cythlwm fel hyn beth bynnag,” meddai.

“Dylen nhw wneud tipyn mwy i sicrhau eu bod nhw ddim yn gorfod mynd i sefyllfa lle maen nhw ar ofyn banciau bwyd yn y lle cyntaf.

“Dydyn nhw ddim yn agos at helpu’r bobol yma sydd wir mewn angen cyflawnder bwyd.

“Yn yr Almaen er enghraifft, does dim elusennau, achos yn gyffredinol, maen gwleidyddion yn credu mai eu dyletswydd nhw yw edrych ar eu pobol.

“Ble bydden ni heb elusennau a chyfraniad pobol a mudiadau? Heb rheiny, bydden ni ddim yn gallu bod.

“Dydy hynny ddim yn sefyllfa dderbyniol mewn cymdeithas wâr, ein bod ni’n begera.

“Mae’n embaras a dweud y gwir.”

‘Embaras’

Dywed Sian ap Gwynfor fod llawer o’r bobol a theuluoedd sy’n gorfod cyfaddef eu bod nhw angen eu cymorth hefyd yn teimlo cywilydd yn gwneud hynny.

“Rydych chi’n mynd i gael unigolion sy’n galw’r bobol hyn yn scroungers,” meddai Sian.

“Byddai rhai’n dweud mai twyllo’r system maen nhw.

“Ond meddyliwch am yr holl filiwnyddion hyn sy’n anfon eu cyfoeth nhw i wlad arall iddo gael cynyddu a chynyddu, ac maen nhw’n osgoi talu trethi.

“Ydyn nhw’n scroungers wedyn neu ydyn nhw’n barchus?

“Dydych chi ddim yn gallu paentio pawb â’r un brws, maen nhw’n bobol sydd ag urddas yn perthyn iddyn nhw.”