Mae’r enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin 2022.

Yn ôl y Cyngor, sy’n trefnu’r gwobrau, byddan nhw’n chwilio am “unigolion, grwpiau a sefydliadau a wnaeth gyfraniad cadarnhaol i ddiwylliant yn ystod pandemig Covid-19.”

Gall hynny fod yn gerddorion, artistiaid, llenorion, neu unrhyw un arall sydd yn haeddu cydnabyddiaeth am “gyfoethogi bywydau” gyda diwylliant.

Oherwydd y pandemig, cafodd y gwobrau yn 2020 eu gohirio, ond bydd pob un a gafodd ei henwebu yn cael eu dathlu yn y seremoni flwyddyn nesaf.

Bydd rhaid i’r unigolion sy’n cael eu henwebu eleni fod yn byw, yn gweithio, neu’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Sul, 23 Ionawr 2022.

‘Codi ysbryd’

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, bod y celfyddydau wedi bod yn hanfodol yn cefnogi pobol yn ystod y pandemig.

“Y celfyddydau oedd un o’r sectorau yr effeithiwyd arnynt waethaf yn ystod y pandemig, ond ar adeg pan oedd angen codi ysbryd pobl, gwnaeth ein hartistiaid talentog gamu i’r adwy a gwneud hynny,” meddai.

“Ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff o bŵer y celfyddydau i gefnogi iechyd a llesiant pobl – er bod ein theatrau a’n stiwdios wedi bod ar gau am gyfnodau mor hir, daeth ein hartistiaid o hyd i ffyrdd arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd.

“Edrychwn ymlaen at weld enwebiadau gan bobl sy’n ddiolchgar am yr ymdrechion a wnaeth yr unigolion, y grwpiau a’r sefydliadau hyn yn ystod cyfnod eithriadol o anodd yn ein bywydau.”

Gall pobl enwebu unigolyn, grŵp neu sefydliad ar-lein ar dudalen y wobr, neu alw heibio yn llyfrgelloedd a chanolfannau gwasanaeth cwsmeriaid Sir Gaerfyrddin am gymorth o ran cyflwyno enwebiad cyn 23 Ionawr.

Bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno mewn seremoni yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ddydd Mawrth, 8 Mawrth 2022.