Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys am batrolio strydoedd Aberystwyth heno, wedi iddo ddychwelyd i’r llu lle y cychwynnodd ei yrfa.
Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, bu Richard Lewis yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland ers mis Ebrill 2019, ac mae wedi gwasanaethu ym mhob rheng o’r heddlu ers iddo ddechrau gyda Heddlu Dyfed-Powys yn 2000.
Mae e hefyd wedi bod yn bennaeth yr adran safonau proffesiynol a chadeirydd Gweithgor Gwrthderfysgaeth Cymru.
‘Rwyf eisiau’r gwir ac rwyf eisiau her’
Gan siarad cyn iddo ddychwelyd adref, rhannodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis neges â’r sefydliad am ei fwriadau ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a phwysigrwydd rhoi llais i’n cymunedau a’r gweithlu mewn llunio’r cynlluniau hynny ar gyfer y dyfodol.
“Ers imi gael fy mhenodi, mae sawl un wedi dweud wrthyf nad oes rheswm pam na all Heddlu Dyfed-Powys fod yn sefydliad a gwasanaeth cyhoeddus neilltuol ar gyfer ein cymunedau – a gwir bob gair,” meddai.
“Ond mae’r amser wedi dod i stopio mynnu beth allem fod, a gweithio’n galetach i wella’n barhaus.
“Y cam cyntaf ar gyfer gwneud hyn yw ymgynghori ar flaenoriaethau, a byddaf yn gwneud hyn yn ystod fy 100 diwrnod cyntaf; heb anghofio bod yn rhaid inni weithio hefyd i gyflenwi Cynllun Heddlu a Throseddu CHTh, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’n cymunedau.
“Fy nod wrth dreulio fy sifft gyntaf nôl yn yr heddlu, allan ar y strydoedd gyda’n cydweithwyr ar y rheng flaen, yw ei gweld a’i chlywed fel y mae. Rwyf eisiau’r gwir ac rwyf eisiau her.”
Ar y gweill
Mae cynllun y Prif Gwnstabl i ymgynghori o fewn y sefydliad a thu allan iddo’n ei dywys i ddiwedd Mawrth, pan fydd yn gweithredu’r darlun mae’n gobeithio cael o gamau nesaf Heddlu Dyfed-Powys a’r cynllun ar gyfer cyflenwi’r weledigaeth.
“Unwaith y byddwn wedi cytuno ar flaenoriaethau, byddwn yn eu dilyn yn ddi-baid fel un tîm, gydag eglurder a ffocws,” ychwanegodd Dr Richard Lewis.
“Mae blaenoriaethu rhai pethau’n golygu cyfaddef nad yw pethau eraill, er eu bod yn bwysig, ar dop ein hagenda.
“Fodd bynnag, ni all ymgynghori olygu bod ein gwaith yn dod i stop yn y cyfamser – mae rhythm sefydliad angen i waith fynd ymlaen yn ddi-oed.
“Pan fyddwn ni wedi sefydlu’n blaenoriaethau a phenderfynu sut y byddwn ni’n mesur cynnydd, ni fyddwn yn gosod targedau.
“Yn hytrach, byddwn ni’n anelu i fod yn well bob dydd. Ni fyddwn yn diffinio’n hunain yn erbyn canlyniadau eraill. Yn lle hynny, byddwn yn anelu i wella’n barhaus.”