Mae toriadau posib i’r gwasanaeth ambiwlans yng Ngheredigion yn “ofid enfawr” i gynghorwyr y sir.
Yng nghyfarfod llawn y cyngor heddiw (dydd Iau, 9 Rhagfyr), fe wnaeth cynghorwyr gefnogi galwad i roi pwysau ar y gweinidog iechyd i rwystro’r toriadau sy’n cael eu cynnig.
Roedd staff y gwasanaeth yn y sir wedi codi pryderon am y cynlluniau, a fyddai’n gweld niferoedd ambiwlansys yng ngorsafoedd Aberteifi ac Aberystwyth yn cael eu haneru o bedwar i ddau yn ystod y dydd.
Fe wnaeth y cyngor llawn gefnogi cynnig gan y Cynghorwyr Gareth Davies a Matthew Woollfall Jones (ill dau o Blaid Cymru) yn adleisio pryderon dybryd ynglŷn â “bwriad y Gwasanaeth Ambiwlans Cymreig i newid y ddarpariaeth ambiwlansys a cherbydau brys yn y sir.”
‘Gwasanaeth Iechyd mewn trafferth ddifrifol’
Yn y cyfarfod, dywedodd Woollfall Jones bod angen cynnal y niferoedd ambiwlans a staffio.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams bod y cynlluniau yn rhan o “erydiad difrifol safonau sylfaenol sydd wastad wedi eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd,” gyda maint yr ardaloedd gwledig yng nghanolbarth Cymru yn ychwanegu at y “gofid enfawr.”
“Mae’r ffaith bod hyn yn cael ei ystyried o gwbl yn dangos fod y Gwasanaeth Iechyd mewn trafferth ddifrifol,” meddai.
“Fel cyngor, dylen ni wneud popeth yn ein gallu i wrthwynebu’r toriadau arfaethedig.”
Yn dilyn y cyfarfod heddiw, bydd y cyngor yn ysgrifennu llythyr at y gweinidog iechyd, Eluned Morgan, yn ei hannog i rwystro’r newidiadau a sicrhau bod “darpariaeth ddigonol” yn parhau yn y sir.