Mae cwmnïau llongau Irish Ferries a Stena Line wedi cael eu beirniadu’n hallt am ganiatáu mordeithiau yn ystod Storm Barra nos Fawrth (Rhagfyr 7).

Cymerodd un daith dros 24 awr i gyrraedd harbwr Caergybi yn ddiogel oherwydd bod y llong yn methu â docio yno tan ar ôl 10 o’r gloch neithiwr (nos Fercher, Rhagfyr 8).

Roedd disgwyl i’r daith, sydd fel arfer ond yn cymryd oddeutu tair awr yn yr amgylchiadau cywir, gyrraedd Ynys Môn yn oriau mân fore Mercher, ond doedd gwyntoedd cryfion a thonnau garw Môr Iwerddon ddim yn galluogi hynny.

Mae’n debyg bod un o longau cwmni Stena Line, a oedd hefyd yn teithio o Iwerddon, wedi cael trafferthion tebyg yn ystod y storm.

Dechreuodd taith y llong honno am 2.45 fore Mercher, ond doedd hi chwaith heb allu docio yng Nghaergybi tan ar ôl 10 o’r gloch nos Fercher – ychydig dros 19 awr yn ddiweddarach.

‘Rydyn ni’n ofni!’

Dywedodd un o’r mordeithwyr, Lilly King, ar Twitter fod amodau’r daith yn “anniogel” i deithwyr.

“Dw i wedi bod yn sownd ar y môr ers 13 awr, heb unrhyw ddiweddariad na sicrhad,” meddai cyn i’r llong gyrraedd Caergybi.

“Pwy wnaeth ganiatáu’r daith o Ddulyn i Gaergybi am 20:55 neithiwr?

“Fe wnaethon ni ymddiried yn yr arbenigwyr i wneud y penderfyniad hwnnw, ond dylai’r fferi hwn fyth fod wedi morio.

“Mae’r fferi’n anniogel, yn taflu pobol ac eitemau o ochr i ochr. Mae pobol yn sâl môr, a dydy pobol methu cael bwyd na dŵr.

“Rydyn ni’n sownd ar y môr ac rydyn ni’n ofni!

“Os yw [Irish Ferries] yn caniatáu eich taith heddiw (dydd Mercher, 8 Rhagfyr), defnyddiwch eich synnwyr eich hunain, nid eu synnwyr nhw.”

‘Wrth edrych yn ôl, ni fyddai’r daith wedi digwydd’

Mae golwg360 wedi cysylltu â chwmni Irish Ferries, ond dydyn nhw ddim yn barod i ddarparu sylw ar hyn o bryd.

Ond dywedodd llefarydd ar ran cwmni Stena Line wrth golwg360 eu bod nhw’n “llunio amserlenni yn unol â’r rhagolygon tywydd ar y diwrnod,” gyda chapten y llong hefyd yn gwneud penderfyniad cyn teithio.

“Wrth edrych yn ôl, ni fyddai’r daith wedi digwydd” pe baen nhw wedi rhagweld yr amgylchiadau fel oedden nhw, meddai.

Ychwanegodd fod staff Stena Line ar y llong wedi rhoi cefnogaeth i’r teithwyr, yn enwedig teuluoedd, gyda chabanau am ddim yn cael eu darparu ar y daith.