Mae arbenigwyr wedi canfod bod olion Neolithig ar fynyddoedd y Carneddau yn fwy nag oedden nhw wedi ei gofnodi o’r blaen.
Fe wnaethon nhw’r darganfyddiad wrth gloddio tir y mynyddoedd dros gyfnod o 16 diwrnod yn yr hydref, gyda mwy na 170 o bobol yn rhan o’r gwaith.
Yn ystod y cyfnod Neolithig, tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl, roedd yr ardal yn Eryri yn lleoliad pwysig ar gyfer creu bwyelli allan o gerrig, a oedd yn cael eu defnyddio ledled Cymru a Lloegr.
Roedd y bwyelli’n cael eu defnyddio bryd hynny er mwyn torri coed, ac yn cael eu gweld fel symbol o bŵer a dylanwad yn y cyfnod.
Ond doedd maint helaeth y gweithiau bwyelli cerrig ar y Carneddau ddim yn hysbys tan y gwaith cloddio diweddar, a welodd timau o wirfoddolwyr o sawl rhan yn cymryd rhan.
Ymysg y gwirfoddolwyr hynny oedd aelodau o’r Clwb Archaelogwyr Ifanc, a disgyblion Ysgol Pant y Rhedyn yn Llanfairfechan, gyda’r gwaith yn digwydd ar dir y ffermwr a’r cyflwynydd teledu, Gareth Wyn Jones.
‘Ni fyddai’r prosiect yn bodoli hebddoch chi!’
Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gynllun pum mlynedd gwerth £4 miliwn, sy’n ceisio hyrwyddo hanes, traddodiadau diwylliannol a bywyd gwyllt yr ardal fynyddig.
Mae’r cynllun yng ngogledd Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae dros 20 o bartneriaid yn rhan ohono.
Roedd y prosiect Tirwedd Bwyeill Neolithig diweddar yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Penmaenmawr, gyda chyllid ychwanegol gan Cadw.
“Mae’r prosiect Bwyeill yn gwbl ddibynnol ar y gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud y gwaith cloddio, cofnodi ac agweddau eraill ar y gwaith,” meddai John Roberts, archeolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran. Roedd yn dîm gwych ac yn bleser cyfarfod a gweithio gyda llawer o bobl mor frwdfrydig.
“Ni fyddai’r prosiect yn bodoli hebddoch chi!”
Ychwanegodd Jane Kenney, archeolegydd o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd: “Mae ein darganfyddiadau hyd yma wedi dangos bod gweithio bwyeill yn llawer mwy helaeth na’r disgwyl; nid oedd yn cael ei gyfyngu i’r ffynonellau cerrig ond yn hytrach na hynny roedd yn digwydd ar draws y dirwedd.”
‘Trysori am byth’
Mae un o’r gwirfoddolwyr, Hannah Ibbotson, wedi sôn am sut daeth hi ynghlwm â’r prosiect.
“Ymunais â’r prosiect heb unrhyw wybodaeth na chefndir archeolegol ac erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roeddwn yn gofyn am gael aros yn hirach er mwyn dod o hyd i fwy o ddarganfyddiadau Neolithig,” meddai.
“Mae eistedd lle eisteddodd person Neolithig i greu bwyell yn brofiad teimladwy iawn y byddaf yn ei drysori am byth (esgusodwch y pun!).
“Roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawgar, allwn i ddim aros i fynd yn ôl bob dydd.”
Bydd gwaith maes a chyfleoedd gwirfoddoli pellach gyda’r prosiect Tirwedd Bwyeill Neolithig ddiwedd yr haf a dechrau hydref 2022.