Mae gwyntoedd cryfion Storm Barra dros nos wedi achosi trafferthion ledled gorllewin Cymru, gan gynnwys rhwystrau i drafnidiaeth a chartrefi’n colli cyflenwadau trydan a nwy.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn ar draws Cymru ar gyfer neithiwr (dydd Mawrth, 7 Rhagfyr), gyda gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr i’w disgwyl.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd mewn sawl ardal yn ystod y 12 awr diwethaf, gan gynnwys yn Y Borth, Cydweli, ac Aber-miwl.
Cafodd cyflenwadau trydan eu colli mewn sawl ardal dros nos, ond mae’r mwyafrif o’r rheiny bellach wedi eu hadfer.
Mae sawl ffordd wedi gorfod cau oherwydd rhwystrau teithio, ac mae rhai ysgolion wedi gorfod cau am y dydd hefyd oherwydd toriadau i gyflenwadau trydan, yn ogystal ag un ysgol sydd wedi colli to un o’i hadeiladau.
Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd amserlen ddiwygiedig mewn lle yn dilyn y storm.
Bydd y rhybudd tywydd melyn yn parhau i fod mewn grym tan 6yh heno (dydd Mercher, Rhagfyr 8) yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Abertawe a Bro Morgannwg.
#StormBarra yn parhau ar draws Cymru heddiw. Ddim mor gryf a ddoe ond y gwynt dal i hyrddio 70mya yn Aberdaron bore 'ma gyda chyfres o rybuddion gwynt / llifogydd yn parhau mewn grym.
Cawodydd, gwyntog ac yn teimlo'n oer yn y gwynt heddi ?️ pic.twitter.com/JT7xCBNMPA
— Steffan Griffiths (@SteffGriff) December 8, 2021
Trenau
Cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru y bydd “amserlen ddiwygiedig yn parhau i fod yn ei le ar fwyafrif o lwybrau heddiw oherwydd effeithiau Storm Barra.”
Mae llifogydd ar y llinell rhwng Machynlleth ac Aberystwyth wedi rhwystro trenau rhag gallu teithio am weddill y dydd, wrth i gwmni Network Rail geisio sicrhau diogelwch y rheilffordd.
Yn dilyn hynny, bydd gwasanaeth bws yn cymryd lle trenau rhwng y ddwy dref, ond does dim modd teithio drwy’r Borth oherwydd y llifogydd ar ffyrdd y dref ac ar ôl i adeilad ddisgyn yno.
⚠️Oherwydd llifogydd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth mae'r llinell wedi'i rhwystro. Mae'n bosib fydd gwasanaethau trên yn destun tarfu ar bob llwybr.
Mae @NetworkRailWAL wedi cadarnhau bod y llinell ar gau am weddill y dydd pic.twitter.com/4LAEWKaZAh
— Trafnidiaeth Cymru Trenau Transport for Wales Rail (@tfwrail) December 8, 2021
Trydan
Mae nifer o ardaloedd yn y gogledd-orllewin wedi bod heb drydan dros nos, yn ôl cwmni ynni Scottish Power.
Fe gollodd ardaloedd gan gynnwys Caernarfon, Bangor, Bethesda, a Phen Llyn eu cyflenwad trydan am gyfnod yn ystod y nos, ond mae’r mwyafrif bellach wedi cael eu hadfer.
Er hynny, mae Scottish Power yn nodi bod rhai cwsmeriaid, gan gynnwys yn Rhosgadfan, Dinorwig, a Nebo yn parhau i fod heb drydan.
Roedd ardal Llanrwst wedi bod heb drydan a nwy, ac roedd llinellau ffôn wedi cael eu heffeithio yn y dref hefyd, gan orfodi i Ysgol Dyffryn Conwy gau ei drysau am y dydd.
⛈Some areas of Llanrwst have no electric or gas. Here are some useful contact details if you need help: pic.twitter.com/F9filej9wx
— Aaron Wynne (@aarwynne) December 8, 2021
Ffyrdd
Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi bod y ffordd y Prom yn Aberystwyth wedi cau rhwng y Pier ac Albert Place, oherwydd y difrod mae’r storm wedi ei achosi dros nos.
Cadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod rhan o’r briffordd rhwng Nefyn a Phwllheli wedi cau fore heddiw (dydd Mercher, 8 Rhagfyr).
“Mae’r A497 o Efailnewydd i Bwllheli ar gau oherwydd coeden sydd wedi cwympo,” meddai’r cyngor ar Twitter.
“Bydd y ffordd ar gau dros nos a gofynnwn i fodurwyr ddilyn ffyrdd amgen.
“Mae’r amgylchiadau gyrru yn ddrwg heno – cynghorwn holl ddefnyddwyr y ffordd i yrru i’r amodau a chymryd gofal.”
There no longer appears to be sand on the beaches in Pwllheli, judging by the layer of sandy film covering the roads and paths this morning…#StormBarra pic.twitter.com/yK9CPeLfNx
— Dan Hodges and the Missing Question Mark (@eljgales2) December 8, 2021
Gwynt
Roedd Aberdaron ym mhen draw Llyn wedi profi gwyntoedd o 84 milltir yr awr yno neithiwr (dydd Mawrth, 7 Rhagfyr) wrth i’r storm gyrraedd ei hanterth.
Fe gollodd Ysgol Bryngwyn yn Nafen, Llanelli do’r adeilad neithiwr ar ôl i wyntoedd cryfion daro’r adeilad.
Doedd neb wedi cael eu hanafu yn rhan o’r digwyddiad hwnnw, ond mae’r ysgol honno wedi cau am y dydd, gyda dosbarthiadau’n cael eu cynnal ar-lein.
Roedd y B4303 sy’n pasio heibio’r ysgol wedi bod ar gau neithiwr a dros nos, gyda Chyngor Sir Gâr yn “ailasesu’r sefyllfa yn y bore” (dydd Mercher, 8 Rhagfyr).
Llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio trigolion ar lannau afonydd ym Mhowys ac ar hyd arfordir y gogledd a Cheredigion i fod yn barod am lifogydd.
Mae rhybudd swyddogol wedi cael ei ryddhau fore heddiw am lifogydd ar lannau’r Hafren ger Aberbechan ac Aber-miwl ym Mhowys.
Roedd rhybudd llifogydd wedi bod mewn grym yn y Borth neithiwr, gyda chadarnhad bod llifogydd yn y pentref fore heddiw wedi i donnau dorri’r amddiffynfeydd yno.
Roedd Cyngor Sir Gar hefyd wedi cyfeirio at rybuddion llifogydd ar draeth Pentywyn ac ym Mharc Gwyliau Bae Caerfyrddin yng Nghydweli.