Dylai pobol sy’n berchen ar garafanau moethus a chabannau mewn parciau gwyliau yng Nghymru orfod talu treth y cyngor, yn ôl un cynghorydd yng Ngwynedd.
Fe ddaeth yr awgrym yn ystod dadl ynglŷn â chyfraddau’r premiwm treth cyngor yn y sir, ac ar ôl i rywun bwyntio allan bod carafanau mewn lleoliadau gwyliau yn gallu costio cannoedd o bunnoedd i’w prynu.
Mae’n debyg bod cynnydd wedi bod yn ddiweddar mewn ceisiadau i gadw parciau gwyliau ar agor trwy gydol y flwyddyn, yn hytrach na dim ond am yr haf.
Carafanau gwyliau
Mae’r Cynghorydd John Brynmor Hughes yn credu y byddai perchnogion yn manteisio ar hynny ac yn defnyddio’r carafanau fel cartrefi parhaol.
Dydy’r cynghorydd, sy’n cynrychioli ward Llanengan, ddim yn credu y dylid codi premiwm ar berchnogion ail gartrefi neu gartrefi gwag, ond mae’n credu y dylai perchnogion carafanau gwyliau dalu treth cyngor yn y lle cyntaf.
“Yn fy marn i, tŷ yw tŷ a dylai pob aelwyd dalu treth yn seiliedig ar ba bynnag fand y mae’r tŷ’n perthyn iddo,” meddai.
“Fyddwn i ddim yn hoffi gwybod faint rydyn ni wedi’i golli yn yr ardal hon, ond un lle rydyn ni ar ein colled fwyaf, rwy’n tybio, yw’r meysydd carafanau.
“Mae carafán y dyddiau hyn fel byngalo, mae ganddyn nhw ystafelloedd gwely ynddyn nhw ac maen nhw’n enfawr, ond prin eu bod nhw’n talu unrhyw dreth.
“Maen nhw’n defnyddio ein ffyrdd, yn cael gwared ar eu sbwriel, maen nhw’n defnyddio’r toiledau cyhoeddus a phopeth y byddai tŷ yn ei ddefnyddio.
“Pan fyddwch chi’n mynd dramor mae gennych chi’r dreth i dwristiaid. Rwy’n erbyn y 100%, rwyf bob amser wedi bod, ond rwy’n credu ein bod ar ein colled yn enwedig yn ystod y pandemig pan mae parciau carafanau yn dod i’r amlwg ym mhobman.
“Byddwn yn awgrymu ein bod yn edrych ar hyn eto ac yn mynd ar drywydd y carafanau.”
‘Cefnogi’r economi leol’
Y llynedd, fe wnaeth parc carafanau y Warren yn Abersoch sicrhau cais cynllunio i agor drwy gydol y flwyddyn.
Fe gawson nhw’r hawl hwnnw ar yr amod eu bod nhw’n gwrthod i unrhyw un ddefnyddio’r carafanau a lletyau gwyliau fel cartrefi parhaol a’u bod nhw’n talu treth y cyngor ar gyfer eu cartref cyntaf.
Yn eu hôl nhw, byddai agor drwy’r flwyddyn yn “rhoi buddion ariannol i’r economi leol, wrth i bobol sydd ar eu gwyliau gefnogi busnesau a masnach leol yn yr ardal gyfagos yn ystod y tymhorau mwy distaw”.
Cadw’r premiwm treth cyngor
Yn ystod yr un cyfarfod, fe wnaeth y Cyngor bleidleisio i gadw’r premiymau ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn 100% ar gyfer 2022/23.
Daeth hyn er gwaethaf honiadau gan y Cynghorydd Dilwyn Lloyd fod y premiymau yn achosi problemau i bobol leol.
“Rydw i wedi cael rhai galwadau gan bobol sydd wedi etifeddu tai gan aelodau o’r teulu sydd wedi marw,” meddai.
“Mae hynny’n golygu bod ganddyn nhw ddau fil ar gyfer y dreth cyngor, ac un ohonyn nhw lle maen nhw’n talu dwbl.
“Dydy’r bobol hyn ddim yn gyfoethog, ddim ond yn cael eu gadael gyda thŷ, sy’n broblem.”
Wrth ymateb i hynny, dywedodd y Cynghorydd Mike Stevens fod gan unrhyw un sydd yn etifeddu tŷ gwag “ddau opsiwn, sef gwerthu neu ei rentu,” a’i bod hi’n annheg i unrhyw un “eu gadael nhw’n wag am flynyddoedd.”