Mae trigolion a chynghorwyr yn Sir Gâr wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i adeiladu trydedd fferm solar ger Rhydaman.
Fe gymharodd un cynghorydd y cynlluniau i godi’r paneli ar 65-hectar o dir yn ardal Llanedi gyda boddi Tryweryn yn y 1960au.
Roedd y Cynghorydd Gareth Thomas hefyd yn feirniadol bod y datblygwyr o du allan i Gymru, ac y byddai’r paneli’n dod o Tsieina.
Mae dwy fferm solar eisoes wedi cael eu datblygu yn yr ardal – un bellach wedi agor, ac un arall wedi cael ei gymeradwyo ym mis Awst.
Byddai gan fferm newydd Brynrhyd y gallu i gynhyrchu hyd at 36 megawat o drydan, ac mae’n debyg byddai £500,000 y flwyddyn yn cael ei gynhyrchu i’r economi leol.
Tryweryn newydd?
Mewn cyfarfod diweddar, mynegodd y Cynghorydd Gareth Thomas ei bryderon ynglŷn â’r cynlluniau newydd, gan ddweud y byddai’r prosiect “yr un math o gysyniad” â boddi Tryweryn.
Wrth ystyried bod y datblygwyr a’r paneli yn dod o dramor, dywedodd y Cynghorydd: “Mae’n rhaid inni gwestiynu hynny? Sut byddwn ni’n elwa o hyn?”
Roedd hefyd yn dweud nad oedd y cynllun “yn dda i’r amgylchedd, dim bwys pa ffordd yr ydych chi’n edrych arno.”
Dywedodd y Cynghorydd Tyssul Evans na fyddai’n hapus i “dir amaethyddol ffrwythlon” gael ei ildio i wneud lle i baneli solar.
‘Gwrthwynebu’r lleoliad’
Roedd un sy’n byw’n lleol, Rhodri Williams, yn gweld pwysigrwydd datblygiadau adnewyddadwy yn llygaid newid hinsawdd, ond roedd yn anghytuno â defnyddio glaswelltir fferm.
Roedd yn siarad ar BBC Radio Cymru fore heddiw (dydd Mawrth, 7 Rhagfyr).
“Yn yr ardal hon er enghraifft, mae yna baneli solar wedi cael eu rhoi ar ddarn o hen dir pwll glo Cynheidre – safle perffaith ar gyfer paneli solar,” meddai ar raglen Dros Frecwast.
“Hefyd, rydych chi’n gallu eu gosod nhw ar dai, ar ffatrïoedd, ac ar unedau diwydiannol, ac mae hynny’n gwneud synnwyr.
“Beth sydd ddim yn gwneud synnwyr yw eu gosod nhw ar dir lle mae gwartheg yn gallu pori a chynhyrchu llaeth a bwyd.
“Mae ynni solar, fel ynni gwynt ac ynni o’r môr, i gyd yn bwysig a dylid cefnogi datblygiadau o’r fath. Nid gwrthwynebu ynni solar ydyn ni, ond gwrthwynebu’r lleoliad sy’n cael ei gynnig ar gyfer y datblygiad yma.”
Gwrthddadleuon
Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy bod unrhyw gynllun sy’n darparu digon o drydan i bweru 10,600 o aelwydydd yn “ddefnydd eithaf da o’r tir yn yr achos hwn”.
Roedd y Cynghorydd Kevin Madge yn dweud y “byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned,” ac fe gyfeiriodd at sut roedd cymunedau ym Metws a Brechfa yn elwa’n ariannol o ffermydd gwynt yn eu hardal.
Pe byddai’r prosiect ynni gwerth £24 miliwn yn cael ei gymeradwyo, byddai’n cymryd tua wyth mis i adeiladu, gan greu 67 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol wrth adeiladu.
Dywedodd yr adroddiad gan y datblygwr, Pegasus Group, y byddai’r dirwedd yn cael ei gwella ar ôl i’r paneli solar gael eu datgomisiynu.