Mae Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu cynllun arloesol ar gyfer hybu gwaith ym maes awtistiaeth yn y sir.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i unigolyn gwyno am safon gwasanaethau yn ymwneud ag awtistiaeth, gydag arbenigwr allanol bellach wedi ei gomisiynu i graffu ar y maes.
I gefnogi’r cynllun, mae cabinet y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyllid o £48,000 at y cynllun dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn sefydlu bwrdd awtistiaeth plant ac oedolion, agor rhaglen hyfforddi ar draws yr awdurdod, yn ogystal â phenodi staff dynodedig er mwyn arwain ar y gwaith.
Mae cyflwr ar y sbectrwm awtistig (ASC) yn anabledd datblygiadol sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu, yn ymddwyn, neu’n rhyngweithio ag eraill.
‘Lle i wella’
Yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, yr Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Theuluoedd, bwriad y cynllun yw sicrhau fod gan y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y cyflwr “fynediad at y gefnogaeth maen nhw ei angen.”
“Rydan ni’n sylweddoli fod wastad lle i wella, ac mae gwaith yn y maes yma wedi dod yn dilyn cwyn a gyflwynwyd am wasanaethau yn y maes awtistiaeth,” meddai.
“Er mwyn sicrhau gwasanaethau gwell i’r dyfodol, mae’n iawn ein bod yn cydnabod pan mae pethau angen gwella, ac rydym wedi comisiynu arbenigwr allanol i fwrw golwg ar y maes yma yng Ngwynedd.
“Trwy adolygu’r trefniadau, rydym wedi gallu datblygu Cynllun Awtistiaeth cyffrous fydd yn sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael mynediad at gefnogaeth sydd wedi ei deilwra at eu hanghenion unigol nhw. Nid ydi awtistiaeth yn weledol ac mae holl wasanaethau cyhoeddus yn ymwneud â maes gwaith awtistiaeth.
“Mae’n braf gweld ymrwymiad gan nifer o asiantaethau, a hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn y Bwrdd Iechyd am eu mewnbwn wrth ddatblygu’r cynllun yma fydd yn gwella’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael i’n plant a phobl ifanc.
“Bydd y cynllun yn gosod cyfeiriad i’r gwaith, ac yn gwella a datblygu’r gwasanaethau yn y maes yma a hynny yn seiliedig ar farn a sylwadau plant, teuluoedd a phobl awtistig fydd yn elwa o’r gefnogaeth.”