Mae Radio Ysbyty Gwynedd ac S4C wedi cyhoeddi partneriaeth sy’n gobeithio “dod â gwên i wynebau rhai o gleifion yr ysbyty”.

Bydd gwrandawyr Radio Ysbyty Gwynedd yn cael clywed mwy am raglenni S4C o ganlyniad i bartneriaeth sydd wedi cael ei chyhoeddi rhwng y ddau ddarlledwr.

O fis Rhagfyr, bydd cyflwynwyr yr orsaf radio wirfoddol, sydd yn dathlu 45 mlynedd o ddarlledu eleni, yn cynnig cipolwg ar raglenni diweddaraf y sianel genedlaethol drwy gynnal sgyrsiau wythnosol gydag Elen Rhys, comisiynydd rhaglenni adloniant S4C.

Yn achlysurol, bydd actorion cyfresi S4C hefyd yn sgwrsio gyda’r cyflwynwyr, Terry Phipps a Kevin Williams, gan drafod y rhaglenni maen nhw’n serennu ynddyn nhw.

Bydd y sgyrsiau yn cael ei hailadrodd yn ystod yr wythnos ar yr orsaf i sicrhau na fydd cleifion yn yr ysbyty a’r gwrandawyr adref yn colli allan.

‘Braint’

“Mae’n fraint i gael bod ar donfeddi Radio Ysbyty Gwynedd a rhannu’r holl ddatblygiadau a rhaglenni cyffrous S4C gyda’r gwrandawyr,” meddai Elen Rhys.

“Wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig, mae llond sach o raglenni gwych ar y gweill ac felly, bydd digonedd i ni ei drin a’i drafod.

“Dw i’n siŵr y cawn ni ddigon o hwyl ar yr awyr a gobeithio y byddwn ni’n gallu dod â gwên i wynebau rhai o gleifion yr Ysbyty.”

‘Anrheg Nadolig gwych’

“Fel gorsaf, rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda S4C ac yn tynnu sylw at y rhaglenni gwych maen nhw’n eu cynnig ar ein sioeau radio,” meddai Kevin Williams, cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd.

“Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi datblygu ein gwasanaeth eto eleni gyda mwy o raglenni radio a’n ap newydd.

“Mae’n anrhydedd i ni weithio mewn partneriaeth â S4C, mae’n anrheg Nadolig gwych i ni i gyd yn Radio Ysbyty Gwynedd.”