Mae Cyngor Ceredigion wedi cefnogi cynlluniau newydd i ddatrys yr argyfwng tai yn y sir.
Roedd grŵp annibynnol yr awdurdod wedi cynnig sefydlu menter newydd i helpu pobol ifanc i brynu eu cartref cyntaf.
Wrth gyflwyno’r cynllun mewn cyfarfod ddoe (dydd Llun, 29 Tachwedd), dywedodd y Cynghorydd Keith Evans bod angen i’r Cyngor fod yn “arloesol” wrth helpu pobol ifanc i aros yn lleol gan mai “nhw yw dyfodol ein cymunedau ac ysgolion.”
Cynlluniau
Fe drafododd Cynghorwyr gamau cyntaf cynllun o’r fath gan edrych ar gartrefi cymunedol, cymhwysedd, ac ariannu.
Un o’r syniadau a gafodd eu codi oedd bod y Cyngor yn dal cyfran (tua 30-50%) o forgais eiddo tra bod perchnogion yn ceisio prynu’r holl forgais dros amser.
Mae’n debyg y byddai hyn yn helpu’r rhai sydd uwchben meini prawf tai fforddiadwy, ond sydd yn parhau i fethu â fforddio prisiau arferol y farchnad.
Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi cyflwyno cap ar brisiau tai cymunedol, a fyddai tua £250,000, cyn belled â bod y prynwyr yn cyrraedd meini prawf penodol.
Dywedodd y Cynghorydd Ifan Davies bod “llawer o waith i’w wneud,” ond bod y “craidd” yna.
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd bwysleisio’r buddion i’r Gymraeg drwy helpu pobol ifanc i aros yn lleol, gyda’r Cynghorydd Lyndon Lloyd yn nodi’r angen i edrych ar y cynllun datblygu lleol, tra bod y Cynghorydd Gareth Davies yn dweud bod angen mwy o gyfleoedd gwaith da yn yr ardal.
Ychwanegodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei chefnogaeth i’r cynllun, gan ddweud “rydyn ni wastad yn sôn am dai, ond dydyn ni byth i weld yn cyflwyno dim byd.”
Fe wnaeth hi hefyd gyfeirio at fentrau llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, a oedd yn debyg i’r cynllun sy’n cael ei gynnig.
Fe wnaeth y pwyllgor gefnogi’r cynnig yn unfrydol, a bydd swyddogion nawr yn “edrych ar hyfywedd y cynllun” cyn y bydd yn cael ei graffu ymhellach.