Mae un o gynghorwyr Cyngor Ynys Môn wedi dweud bod cynlluniau i droi tŷ yn “hafan ddiogel” i blant yn “wastraff arian.”

Fe wnaeth sylwadau’r Cynghorydd Aled Morris Jones wylltio cabinet y Cyngor, sy’n bwriadu prynu’r eiddo am tua £400,000 yn Rhosybol a’i droi yn Gartref Grŵp Bychan.

Mae’r prosiect ‘Cartrefi Clyd’ yn cynnig amgylchedd teuluol i blant sydd yng ngofal yr awdurdod, fel arfer dros dro, wrth iddyn nhw geisio canfod cartref mwy parhaol.

Gyda llawer o blant yn gorfod cael eu gyrru i gartrefi di-Gymraeg dros y ffin, mae’r prosiect wedi galluogi i nifer o bobol ifanc i barhau i fyw ar yr ynys a derbyn eu haddysg yn lleol.

Mae hefyd yn osgoi’r angen am leoliadau drwy asiantaethau preifat, sy’n gallu costio £200,000 bob blwyddyn i bob plentyn.

‘Gwastraff arian’

Cafodd adroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Corfforaethol Cyngor Ynys Môn wythnos diwethaf yn cadarnhau bod cynlluniau i agor tri chartref plant arall, er mwyn ychwanegu at y tri sydd yna’n barod.

Ar ôl clywed yr adroddiad ar lafar yn y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones: “Rydych chi dal yn y broses o brynu’r eiddo hwnnw [yn Rhosybol], felly dydych chi heb gwblhau gwastraffu’r £400,000 eto.”

Mewn ymateb i hynny, dywedodd arweinydd y Cyngor, Llinos Medi, bod yr arian yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, sydd am wneud arbedion wrth gynnig cefnogaeth i blant ar yr ynys.

‘Siomedig iawn’

Roedd y Cynghorydd Gary Pritchard yn un wnaeth godi pryderon am sylwadau’r Cynghorydd Aled Morris Jones yn y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf.

“Mewn wythnos lle bydd y mwyafrif llethol ohonom ni yn codi arian ac yn cyfrannu at Blant Mewn Angen, roeddwn yn drist o glywed y Cynghorydd Morris Jones yn defnyddio ei swydd fel cadeirydd i feirniadu un o brosiectau pwysicaf Cyngor Môn,” meddai.

“Fel cynghorydd cymharol newydd, roedd yn agoriad llygad i fi pan sylweddolais fod rhai o’r plant mwyaf bregus sydd yng ngofal yr awdurdod lleol yn gorfod cael eu lleoli mewn llety ymhell i ffwrdd o Ynys Môn.

Y Cynghorydd Gary Pritchard

“Mae rhaglen Cartrefi Clyd wedi sicrhau y gall y bobl ifanc hyn barhau i fyw ar yr ynys, cynnal eu cysylltiadau â’u cymuned a sicrhau eu bod yn aros mewn addysg Gymraeg.

“Mae gennym ddyletswydd gofal i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau heb sôn am y ffaith bod y cynllun mewn gwirionedd yn arbed arian i Gyngor Môn, mae’n siomedig iawn clywed cynghorwyr y gwrthbleidiau yn gwneud datganiadau o’r fath.”

‘Rydw i o blaid Cartrefi Clyd, ond yn y llefydd iawn’

Fe wnaeth Aled Morris Jones geisio egluro ei sylwadau yn hwyrach ymlaen.

“Rydw i’n cefnogi Cartrefi Clyd mewn meysydd priodol a chynaliadwy, a lle bynnag mae’n helpu pawb, ond pan dydy arian cyhoeddus ddim yn cael ei ddefnyddio’n iawn, mae’n rhaid i hynny gael ei gwestiynu,” meddai.

“Y broblem yw bod y grŵp rheoli ddim yn barod i bobol ofyn cwestiynau, mae’n rhaid iddyn nhw weiddi ar draws pobol cyn cwblhau eu sylwadau.

“Mae dau dŷ yn y broses o gael eu prynu yn Rhosybol a Llangristiolus am gyfanswm o tua £800,000.

“Gallai hyn fod wedi cael ei wario ar fwy na dau dŷ newydd sbon ac mewn meysydd mwy cynaliadwy a gwasanaethau mwy lleol, ddim mewn ardaloedd gwledig.

“Rydw i o blaid Cartrefi Clyd, ond yn y llefydd iawn.”