Bydd clinigau brechu ychwanegol yn cael eu hagor yn Ynys Môn yn dilyn pryderon bod nifer o unigolion hŷn neu fregus heb gael eu brechlyn atgyfnerthu.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth (23 Tachwedd), nododd yr Aelod o’r Senedd Rhun ap Iorwerth bod niferoedd “sylweddol is” – gan gynnwys y rheiny dros 80 oed – wedi derbyn eu trydydd brechlyn yn ardaloedd Amlwch a Chaergybi.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi beio problemau cyfrifiadurol am yr oedi sydd wedi bod yng ngogledd a gorllewin Môn, sydd wedi golygu bod sawl un sy’n gymwys heb gael gwahoddiad am frechlyn eto.

Mae swyddogion wedi sicrhau’r cyhoedd y bydd llythyrau apwyntiad yn cael ei gyrru yn fuan i’r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Pryderon

Fe nododd Rhun ap Iorwerth y “diffyg cysondeb” rhwng yr ardaloedd dan sylw ac ardaloedd eraill o ran y niferoedd sydd wedi derbyn eu brechlyn atgyfnerthu.

“Yn y dyddiau diwethaf, rydw i wedi cael gwybod am bryderon difrifol am nifer y bobol sydd wedi cael gwahoddiad am eu brechlyn atgyfnerthu yn ardaloedd Amlwch a Chaergybi,” meddai’r Aelod Plaid Cymru.

“Mae’n ymddangos fod y ddwy ardal ymhell tu ôl i bob man arall yn cynnig y brechlyn atgyfnerthu, ac mae’r bwrdd iechyd wedi gadael imi wybod bod hyn oherwydd problem gyfrifiadurol sydd bellach wedi ei thrwsio.

“Rydw i’n falch o glywed bod llythyron gwahoddiad nawr yn cael eu danfon yn nhrefn blaenoriaeth, a dylai’r rheiny sy’n dal i ddisgwyl am wahoddiad glywed oddi wrth y bwrdd iechyd yn fuan.

“Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi dweud wrtha i y bydd swyddogion yn edrych i mewn i’r mater i sicrhau bod unrhyw ardal sydd ar ei hôl hi yn cael eu cyfeirio atyn nhw fel mater o flaenoriaeth.

“Mae’n hanfodol bod y rhaglen frechu ddim yn disgyn ar ei hôl hi a bod pobol yn derbyn eu brechlyn atgyfnerthu mewn da bryd.”

Clinigau ychwanegol

Yn gynharach y mis hwn, fe gafodd ei gadarnhau y byddai trydydd brechlyn “atgyfnerthu” yn cael ei gynnig i bawb dros 40 yng Nghymru, gyda’r rhaglen wedi ei gynllunio i gryfhau amddiffyniad pobol a lleihau lledaeniad y firws yn ystod y gaeaf.

Roedden eisoes yn cael ei gynnig i bawb dros 50, staff iechyd a gofal rheng flaen, a phobol sy’n hynod fregus i Covid-19.

Mewn ymateb i’r oedi yn Ynys Môn, dywedodd rheolwr rhaglen frechu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Graham Ruston: “Fe ddaethon ni’n ymwybodol wythnos diwethaf bod rhai pobol hŷn heb dderbyn eu gwahoddiad am frechlyn atgyfnerthu.

“Ar ôl ymchwilio i’r sefyllfa, fe ddaethon ni ar draws problem gyda’r templedi gwybodaeth sy’n rhaid eu llenwi i gynhyrchu llythyron apwyntiadau, sydd wedi effeithio ar ambell i feddygfa yn Ynys Môn.

“Mae’r camgymeriad bellach wedi ei ddatrys, ac mae clinigau ychwanegol wedi eu hagor i gywiro’r sefyllfa. Mae apwyntiadau wedi eu gosod mewn trefn blaenoriaeth a bydd unigolion sydd wedi eu heffeithio yn derbyn gwahoddiad yn fuan.

“Mae ein timau symudol yn parhau i ymweld â chartrefi’r rheiny sydd methu â gadael, er mae hyn yn anochel am fod yn broses hir o ystyried yr ardal sy’n rhaid inni ei orchuddio.”