Mae Bangor wedi cael ei henwebu fel un o’r llefydd gorau yn y Deyrnas Unedig i fagu plant.
Yn ôl GAP, y cwmni manwerthu dillad, fe wnaethon nhw ddadansoddi pob dinas o ran nifer yr ysgolion cynradd, parciau, a chanolfannau iechyd, yn ogystal â chyfraddau geni cyfartalog a chyfradd trosedd.
Derbyniodd y ddinas dysg, sydd â phoblogaeth o 18,808, gyfanswm pwyntiau o 45.47, a oedd yn ddigon i’w rhoi hi’n drydedd ar y rhestr derfynol.
Y ddinas orau i fagu plant ynddi, a hynny o bell ffordd, oedd Armagh yng ngogledd Iwerddon, a oedd â sgôr cyfanswm o 65.54, gyda Wells yng Ngwlad yr Haf yn ail gyda sgôr o 52.93.
Dwy ddinas yn colli allan?
O ddinasoedd eraill Cymru, roedd Caerdydd yn rhif 27 ar y rhestr, Abertawe yn rhif 33, a Chasnewydd yn rhif 44, ond doedd dim data yn yr ymchwil ar gyfer dinasoedd Tyddewi a Llanelwy.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Bangor a gweddill y gogledd-orllewin gyflwyno cynnig i fod yn Ddinas Diwylliant yn 2025.
Doedd y cais ddim yn ddigon da i fynd ymlaen i rownd nesaf y cyfnod ymgeisio, gan gael ei drechu gan wyth o geisiadau eraill, gan gynnwys Wrecsam, Southampton, Cernyw, ac unwaith eto ardal Armagh.