Mae cynllun i droi tŷ yn bedwar fflat yn Aberystwyth wedi cael ei gymeradwyo er gwaethaf nifer o bryderon.

Roedd cynghorwyr lleol, a’r Cyngor Tref, wedi adleisio gwrthwynebiad trigolion am y cynllun, gyda chwynion am y posibilrwydd y byddai teras yn cael ei adeiladu ar do fflat yr adeilad.

Cafodd y cais ei ohirio fis Hydref er mwyn canfod mwy o wybodaeth am y cynllun.

Mewn cyfarfod heddiw (dydd Mercher, 24 Tachwedd), daeth y pwyllgor rheoli datblygu Cyngor Ceredigion i benderfyniad nad oedd y cynllun ar Heol y Castell yn torri unrhyw reolau cynllunio.

Pryderon

Roedd llu o bryderon gan gynghorwyr ynglŷn â pharcio, ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â cholli annedd maint priodol i deulu.

Dywedodd y Cynghorydd Ceredig Davies fod llawer o dai yn Aberystwyth yn cael eu troi i mewn i fflatiau ac “unedau bach a dwys, sy’n fach iawn i bobol fyw ynddyn nhw.”

Ychwanegodd y byddai’n well ganddo weld y tŷ’n cael ei droi i mewn i dri fflat yn lle pedwar, gan alw ar yr un pryd am atal y teras ar do’r adeilad.

Fe gefnogodd y Cynghorydd Endaf Edwards yr alwad honno, gan ddweud y byddai mwy o fflatiau’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol.

Mewn ymateb i hynny, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies nad oedd yn dderbyniol i “feirniadu pobol cyn iddyn nhw hyd yn oed fyw yno.”

Roedd y Cynghorydd Dafydd Edwards hefyd yn dadlau bod angen ystyried “yr angen am dai” yn yr ardal.

Yn sgil hynny, fe gafodd y cais ei gymeradwyo gydag 11 pleidlais o blaid, pump yn erbyn, a thri aelod yn ymatal.